Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Agored yr Archifdy Hanesyddol
  		Published: 14/08/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn agor drysau ei Archifdy i ganiatáu i ymwelwyr weld y 
tu ôl i lenni Hen Adeilad y Reithordy ym Mhenarlâg.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 5 Medi rhwng 10am a 2pm fel 
rhan o’r Cynllun Drysau Agored cenedlaethol. 
Bydd y digwyddiad arbennig yn cynnwys arddangosfa am adeiladau hanesyddol y 
pentref efo lluniau ‘heddiw a ddoe’ a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymuno â 
Thaith Hanes o gwmpas y pentref dan arweiniad tywysydd gwybodus. Bydd y 
teithiau yn dechrau am 10.30am a 12:30 ac yn para awr a chwarter. Mae’n rhaid 
archebu o flaen llaw.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Maer Archifdy yn 
wasanaeth pwysig a gwerthfawr iawn syn darparu llawer o gymorth a mwynhad i 
bobl syn ymchwilio i hanes eu teulu neu hanes yr ardal leol. Dyma gyfle gwych 
i ymwelwyr weld y tu ôl i lenni’r adeilad hanesyddol hwn. Rydym ni’n edrych 
ymlaen at groesawu cymaint o bobl â phosibl i’r digwyddiad rhad ac am ddim yma.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle ar y daith hanes, ffoniwch 01244 
532364 neu anfonwch e-bost i archives@flintshire.gov.uk