Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arddangosfa o wasanaethau 2015
  		Published: 12/08/2015
Bydd arddangosfa o waith Timau Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cyngor 
Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn y sioe 
sirol flynyddol ar y Gr卯n, Dinbych ddydd Iau, 20 Awst.
Archwilio tref a chefn gwlad fydd y thema ar gyfer arddangosfa ar y cyd y 
cynghorau.  Bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd
yn cynnig cyngor a gwybodaeth am sut y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau鈥檙 
cefn gwlad hardd, pentrefi, hanes 
a threftadaeth yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych. 
Bydd arddangosfeydd allanol yn cynnwys gwaith y Ceidwaid Cefn Gwlad gan 
ddefnyddio gweithgareddau ac arddangosfeydd i helpu pob oedran 
werthfawrogi a deall ein hamgylchedd gwledig gwych. 
Bydd arddangosfeydd yn y babell fawr yn cynnwys Teithio Byw (Cymru) a 
gwybodaeth am y cyfoeth o weithgareddau a lleoedd i 
ymweld 芒 nhw ar draws y ddwy sir. Bydd arddangosfa am Ardal o Harddwch Naturiol 
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 
 hefyd gan ei bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni. 
Bydd planhigfeydd Triffordd o Sir y Fflint yn arddangos y planhigion maent yn 
eu tyfu.
Gall ymwelwyr ir arddangosfa roi cynnig ar raffl i ennill basged yn llawn o 
gynnyrch lleol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 
鈥淒ymar seithfed flwyddyn y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir 
Ddinbych ac eleni byddwn yn
  dangos sut mae pob oedran yn gallu mwynhaur cyfoeth o atyniadau sydd ar gael 
yn y ddwy sir.鈥 
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE
鈥淢ae鈥檙 ddau gyngor yn falch o weithio gydai gilydd a chefnogi鈥檙 sioe unwaith 
eto, syn ddigwyddiad poblogaidd 
a phwysig yn y calendr amaethyddol blynyddol.
Nodyn i olygyddion:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒r T卯m Cyfathrebu Corfforaethol ar 01352 
702112.