Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun perchentyaeth cost isel
  		Published: 19/08/2015
Mae cynllun rhannu ecwiti perchentyaeth cost isel Cyngor Sir y Fflint yn gyfle 
gwych i bobl sengl, cyplau a theuluoedd i gymryd cam ar yr ysgol eiddo, gan 
alluogi pobl sydd wedi芒u prisio allan or farchnad dai ar hyn o bryd i fod yn 
berchen ar gartref eu hunain.
Maer cynllun a weinyddir ar ran y Cyngor gan Grwp Cynefin, yn seiliedig ar yr 
egwyddor o rannu ecwiti ac yn helpu prynwyr tro cyntaf i fod yn berchen ar 
gartrefi. Maer prynwr yn cyllido 70% o werth yr eiddo, syn golygu blaendal 
llai a thaliadau morgais is. Nid ywr ecwiti yn fenthyciad sydd angen ei 
ad-dalu ac nid oes unrhyw rhent yn daladwy. Yn syml, maen golygu bod gan y 
Cyngor d脙l wedi芒i sicrhau yn erbyn yr eiddo i sicrhau芒r benthyciad ecwiti o 30%.
 Pan fydd y prynwr yn penderfynu gwerthur cartref ymlaen, byddant yn derbyn 
70% or pris gwerthu ar y pryd ar cyngor yn derbyn 30%, sy芒n eu galluogi i 
ailgylchur arian neu ei ddefnyddio fel ecwiti ar gyfer cartref arall.
Roedd pum eiddo ar gael iw prynu o dan y cynllun hwn ar ddatblygiad Persimmon 
yng Nghroes Atti yn Oakenholt ac mae芒r prynwyr wedi symud i mewn iw cartrefi 
newydd.  Mae tri t脜 teras 2 lofft dal ar gael ar y datblygiad cyfagos gan 
Anwyl  a byddant yn barod ym mis Ionawr 2016.
Dywedodd Paul Young a roddodd ei enw i lawr yn ddiweddar i gadw cartref ar 
gynllun datblygiad Anwyl yng Nghroes Atti:
芒Maer cynllun rhannu ecwiti gan Gyngor Sir y Fflint trwy Grwp Cynefin yn 
gynllun gwych ar gyfer person sengl fel fi. Heb y cynllun hwn ni fyddai bod yn 
berchen ar gartref fy hun yn fforddiadwy. 
芒Byddwn yn argymell y cynllun hwn i unrhyw un sydd eisiau gallu fforddio prynu  
cartref eu hunain. Maer cynllun yn rhoir cyfle i bobl sydd eisiau rhoi cam ar 
yr ysgol eiddo. Pob lwc i unrhyw un syn defnyddior cynllun hwn.
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
芒Maer cynllun yn rhoi cyfle i bobl i brynu cartref am bris fforddiadwy a 
byddwn yn annog unrhyw un syn chwilio am eu heiddo cyntaf i ddarganfod mwy am 
y cynllun
Meddai Gwenan Jones, Rheolwr Tai Fforddiadwy gyda Grwp Cynefin,
芒Mae eiddo rhannu ecwiti pellach ar gael ar hyn o bryd gan Anwyl - Cwrt Isaf 
Oakenholt, David Wilson Homes - Wepre Green, Redrow Cei Connah - Rhostiroedd 
Bwcle, Bloor Homes Parc -Jasmine, Broughton a Taylor Wimpey -Alyn Meadows Hope.
芒Rydym hefyd yn falch iawn fod tri or pum t脜 sydd ar gael yn natblygiad 
Persimmon yng Nghroes Atti wedi芒u gwerthu i brynwyr gyda chysylltiad lleol i 
Oakenholt a Fflint, gydar ddau brynwr arall gyda chysylltiadau lleol i 
gymunedau cyfagos.
I gael rhagor o fanylion am y cynlluniau uchod neu i gofrestru diddordeb yn 
natblygiadau芒r dyfodol, cysylltwch 脙 Grwp Cynefin ar 0300 111 2122, E-bost: 
affordablehomes@grwpcynefin.org 
Gwefan: www.grwpcynefin.org