Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Achrediad cenedlaethol ar gyfer Archifdy Sir y Fflint
  		Published: 29/07/2015
Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a 
Thwristiaeth Ken Skates wedi cyflwyno Archifdy Sir y Fflint 
gydai Achrediad Gwasanaeth Archifau. Dymar gwasanaeth archifau cyntaf yng 
Ngogledd Cymru i gyflawni鈥檙 safon proffesiynol nodedig hwn.
Mae Gwasanaethau Archifau Achrededig yn sicrhau鈥檙 casgliad tymor hir, cadwraeth 
a hygyrchedd ein treftadaeth archif.
 Achrediad yw鈥檙 safon ansawdd newydd y DU syn cydnabod perfformiad da ym mhob 
maes o ddarparu gwasanaeth archifau. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos 
bod Archifdy Sir y Fflint wedi bodloni safonau cenedlaethol a ddiffiniwyd yn 
glir mewn perthynas 芒 rheolaeth a darparu adnoddau ar ofalu am ei chasgliadau 
unigryw ar hyn y maer gwasanaeth yn ei gynnig iw holl ystod o ddefnyddwyr.
Maer Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac 
mae nid yn unig yn cadw archifau鈥檙 Cyngor Sir ond hefyd archifau busnesau 
lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau, a llawer mwy. Roedd yn un or archifdai 
cynharaf i鈥檞 sefydlu yng Nghymru ac mae bob amser wedi鈥檌 nodi am ansawdd ei 
wasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
Rydym yn falch iawn i fod y gwasanaeth archifau cyntaf yng Ngogledd Cymru i 
ennill statws achrededig. Ar adeg o newid mawr mewn llywodraeth leol rydym yn 
falch o allu sefyll i fyny a chael ein cyfrif fel bod yn cynnal ansawdd ac 
ymrwymiad ir gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint ac i hiliogaeth.
Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau bod perfformiad Archifdy Sir y 
Fflint yn dangos darpariaeth gwasanaeth cryf ym mhob maes. Wedi鈥檜 neilltuo yn 
arbennig ar gyfer canmoliaeth oedd:  ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a chadw 
Achrediad yn y tymor hir; y defnydd effeithiol ac wedi鈥檌 gynllunion dda o 
wirfoddolwyr i fwydo i mewn i ddatblygu gwasanaethau a chofnod rhagorol y 
gwasanaeth mewn cadwraeth, cefnogi hyfforddiant a datblygiad proffesiynol 
ehangach a gwneud gwelliannau rhanbarthol yn bosibl.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a 
Thwristiaeth Ken Skates:
Llongyfarchiadau i Archifdy Sir y Fflint ar fod y gwasanaeth archifau cyntaf 
yng Ngogledd Cymru i ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau. Mae staff y 
gwasanaeth archifau yn gweithio鈥檔 eithriadol o galed i ddarparu safon uchel o 
ofal ar gyfer casgliadau鈥檙 archif a gwasanaeth ardderchog iw defnyddwyr. 
Dylent fod yn falch iawn or llwyddiant hwn.鈥
 Mae manylion am yr Archifdy iw weld ar wefan y Cyngor yn 
www.flintshire.gov.uk/archives 
NODYN I OLYGYDDION
Yn y llun isod gyda鈥檙 Wobr Achredu mae (or chwith ir dde); Y Cyng. Aaron 
Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros 
Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates, Claire Harrington, Prif 
Archifydd ar Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy鈥檔 gyfrifol am Hamdden.
 _FBH9806.JPG  
Yn y llun yn y llun isod (chwith ir dde):Colin Everett, Prif Weithredwr, 
Claire Harrington, Prif Archifydd, y Cyng. Kevin Jones, Aelod y Cabinet gyda 
chyfrifoldeb dros Hamdden, Neil Cockerton, Prif Swyddog Newid Sefydliadol, 
Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth 
Ken Skates, y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Cyng. 
Clive Carver, aelod y ward ar gyfer Penarl芒g.
 _FBH9787.JPG