Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwella diogelwch bwyd
  		Published: 08/07/2015
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Gorffennaf, bydd Cabinet y Cyngor yn clywed bod 
diogelwch a safonau bwyd yn Sir y Fflint yn parhau i wella.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Gwasanaeth Bwyd y Cyngor wedi rhagori ar nifer 
o鈥檜 targedau perfformiad, gan gynnwys llwyddo yn 100% o鈥檜 harchwiliadau risg 
uchel ar gyfer hylendid a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae nifer y busnesau bwyd yn Sir y Fflint sy鈥檔 cydymffurfio鈥檔 gyffredinol 芒 
deddfwriaeth hylendid bwyd wedi gwella hefyd, ac wedi codi i 95.6 y cant.
Mae t卯m y Cyngor yn hyrwyddo鈥檙 broses o werthu a chynhyrchu bwyd sy鈥檔 addas ac 
yn ddiogel i鈥檞 fwyta, rheoli afiechydon a gaiff eu cludo mewn bwyd, a gweithio 
gyda bwytai, cwmn茂au arlwyo, ffatr茂oedd a chynhyrchwyr bwyd anifeiliaid i roi 
cyngor, gwybodaeth a chyngor iddynt.聽 
Yn ystod y 12 mis diwethaf, rhoddwyd cyngor cynhwysfawr hefyd i fusnesau 
ynghylch newidiadau mewn deddfwriaeth safonau bwyd a ddaeth i rym fis Rhagfyr 
2014. Cynhaliwyd nifer o weithdai drwy鈥檙 sir i esbonio gofynion newydd i labelu 
alergenau.
Gofynnir i鈥檙 Cabinet gymeradwyo鈥檙 Cynllun Gwasanaeth Bwyd ar gyfer y flwyddyn 
nesaf. Mae鈥檙 Cynllun hwn yn gosod safonau diogelwch bwyd a gorfodi deddfwriaeth 
bwyd. Mae鈥檙 targedau allweddol yn cynnwys llwyddo yn 100% o鈥檙 archwiliadau risg 
uchel, gweithio gyda chynghorau eraill yn y Gogledd i wella hylendid bwyd 
busnesau nad ydynt yn perfformio cystal, parhau i annog busnesau i arddangos y 
sticeri sy鈥檔 dangos eu sg么r hylendid bwyd, a chymryd camau gorfodi yn erbyn y 
busnesau hynny nad ydynt yn cydymffurfio.聽 
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth 
Gwastraff, Diogelu鈥檙 Cyhoedd a Hamdden: 鈥淢ae safonau bwyd yn y Sir yn cael rhan 
bwysig o waith ein t卯m Diogelu鈥檙 Cyhoeddus ac mae鈥檙 cynllun hwn yn golygu y 
gallwn osod amcanion a thargedau i wella gwasanaeth rhagorol ymhellach. Mae鈥檙 
t卯m wedi ymrwymo i helpu busnesau i gydymffurfio 芒鈥檙 holl ddeddfwriaeth 
berthnasol, gan sicrhau cydbwysedd rhwng cynghori a gorfodi a sicrhau diogelwch 
a lles y cyhoedd hefyd鈥.