Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobrau Balchder Sir y Fflint
  		Published: 09/07/2015
Bu dros 100 o blant sy鈥檔 derbyn gofal a phobl ifanc sy鈥檔 gadael gofal mewn 
seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar. 
Mae seremoni wobrwyo Balchder Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant plant sy鈥檔 cael 
gofal maeth a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar ond sy鈥檔 dal yn 
cael cymorth gan y timau gwaith cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau 
Cymdeithasol:
Er gwaethaf popeth sy鈥檔 mynd ymlaen yn eu bywydau ifanc, fel anawsterau 
personol, problemau iechyd, a chael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, mae鈥檙 
plant hyn wedi llwyddo ym maes chwaraeon, dawns ac addysg ac wedi llwyddo yn eu 
bywydau personol. Maent wedi ennill bathodynnau nofio, wedi cael gwaith, wedi 
codi arian at achosion da, ac mae un wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn yn y 
Gyfraith hyd yn oed. Rydym yn hynod falch o鈥檙 hyn y mae鈥檙 plant hyn, o fabanod 
i bobl ifanc yn eu harddegau, wedi鈥檌 gyflawni a鈥檙 cymorth y maent wedi鈥檌 gael 
gan eu gofalwyr maeth, eu gweithwyr cymorth a鈥檜 teuluoedd.
 Roedd yn ddiwrnod arbennig, roedd yr haul yn tywynnu a chafodd pawb ddiwrnod 
llawn hwyl.
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a鈥檙 Cynghorydd Ray Hughes, 
Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, agorodd y seremoni. Y Cynghorydd Jones 
gyflwynodd y gwobrau ac roedd Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau 
Cymdeithasol a Mark Tami AC yn bresennol hefyd.聽 
Ar Twitter, dywedodd Sally Holland: 鈥淩oedd Balchder Sir y Fflint yn ddigwyddiad 
cynnes, llawn hwyl, a oedd yn dathlu llwyddiant plant sy鈥檔 derbyn gofal - 
llongyfarchiadau i bawb鈥 
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghlwb Cymdeithasol Corus ac roedd yn gyfle i聽 
blant, teulouedd maeth a theuluoedd biolegol ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant y 
plant ac i roi cyfle iddynt fwynhau diwrnod bythgofiadwy. Roedd castell neidio, 
reidiau, hufen i芒, perfformiadau canu gan聽 Princesses a鈥檙 plant eu hunain, 
stondin paentio wynebau, disgo a鈥檙 seremoni wobrwyo ei hun. 
聽Cyfrannodd busnesau lleol at lwyddiant y diwrnod drwy ddarparu gwobrau ac 
anrhegion. Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i Knauf Installations, Dave 
Cottle Engineering, McLintocks, Molyneux, MPH
Construction, Village Urban Resorts, Beaufort Park Hotel, Mainetti, System
Electrical, Airbus, Airbus FC, Westbridge Furniture, Whittington Riddell,
Coleg Cambria, J Bradburn Price, Linenhall Chambers, y Pwyllgor Safonau,
Abakhan, Nandos, Dee Gas, LS Fire Group, The Cross Keys, cynghorwyr lleol a鈥檙 
unigolion a gyfrannodd. 
Pennawd o鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Y Cynghorydd Christine Jones, Neil Ayling聽 Sarah
Williams (16), Dawn Price (21) Bryony Smythe (18) a鈥檙 Athro Sally Holland.
聽