Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cadeirydd yn cwrdd â merch ifanc syn codi arian
  		Published: 01/07/2015
Yn ddiweddar bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes, 
gyfarfod 芒 merch 14 oed, Georgia Kaye Edwards, sydd wedi cael ei henwi yn 鈥楳iss 
Junior Teen鈥 Sir y Fflint.
 
Mae Georgia, o Benyffordd, yn ddisgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Castell 
Alun yn yr H么b.  Mae wedi cael ei dewis o gannoedd o gystadleuwyr cyn-derfynol 
i gystadlu yn rownd derfynol 鈥楳iss Junior Teen鈥 Prydain Fawr a gynhelir yn 
Blackpool ym mis Hydref.
 
Mae Georgia鈥檔 gweithio鈥檔 galed i hyrwyddo elusen enwebedig y digwyddiad sef 
Together for Short Lives, cymaint ag sy鈥檔 bosibl.  Mae hon yn elusen flaenllaw 
yn y DU sy鈥檔 codi arian i blant ag anhwylderau sy鈥檔 bygwth ac yn cyfyngu ar 
fywyd a phawb sy鈥檔 eu cynorthwyo, eu caru ac yn gofalu amdanynt.  Maent yn 
cynorthwyo teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau, gan gynnwys 
hosbisau plant.
 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Hughes:
鈥淢ae Georgia鈥檔 eithriadol o ofalgar ac mae鈥檔 gweithio鈥檔 galed.  Roedd yn bleser 
ei chroesawu i Neuadd y Sir.  Mae eisoes wedi codi arian i Together for Short 
Lives, ac mae ar hyn o bryd yn casglu rhoddion o hen ddillad, dillad gwelyau a 
thyweli i fynd i Fanc Dillad a鈥檜 cyfnewid am roddion i鈥檙 elusen.  Helpwch os 
gallwch 鈥 gallwch roi rhoddion yn syth i dudalen Justgiving Georgia sef 
www.justgiving.com/Georgia-Kaye-Edwards.鈥
 
Meddai Georgia: 鈥溾橠w i ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli fod mwy iddi na 
harddwch corfforol yn unig mewn cystadlaethau pasiant yn y wlad hon.  Mae gofyn 
i ferched godi arian at elusen, cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, a 
dangos eu ochr ofalgar.  Mae鈥檔 beth da i bobl ifanc gymryd rhan ynddo, gan ei 
fod yn meithrin eich hyder, eich dysgu am yr hyn sy鈥檔 digwydd o鈥檆h cwmpas, ac 
yn gwneud i chi sylweddoli pa mor ffodus ydych chi.  Bydd cymryd rhan yng 
nghystadleuaeth 鈥楳iss Junior Teen鈥 Prydain Fawr yn brofiad bywyd gwerthfawr 
iawn i mi.鈥
 
Llun
Yn y llun mae鈥檙 Cynghorydd Ray Hughes, Georgia Kaye Edwards, Mrs Gwenda Hughes 
a鈥檙 Cynghorydd Cindy Hinds.