Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithdy Hanes Teulu i Ddechreuwyr
  		Published: 30/06/2015
Cynhelir gweithdy hanes teulu i ddechreuwyr ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf yn 
Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarl芒g o 10.00am tan 1.00pm
Ydych chi erioed wedi meddwl lle oedd eich hynafiaid yn byw, yn gweithio neu 
bler aethant ir ysgol? Bydd chwilio drwy gofnodion gwreiddiol yn eich helpu i 
gael cipolwg ar fywyd pob dydd Sir y Fflint yn y gorffennol. 
Hoffech chi olrhain hanes eich teulu drwy ddefnyddio gwefannau hanes teulu 
poblogaidd, Ancestry a Find My Past?
Bydd staff wrth law i ddangos ystod eang o gofnodion gan gynnwys y Cyfrifiad; 
cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau; cofnodion plwyfi; a 
chofnodion Etholiadol.  Byddant yn egluro sut i ddefnyddio gwybodaeth ar-lein a 
chanfod mwy or dogfennau gwreiddiol sydd ar gael yn yr Archifdy.
Rhaid archebu lle gan fod lleoedd yn gyfynedig. Y pris yw 拢10 y pen.
Ffon. 01244 532364   e-bost: archives@flintshire.gov.uk