Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arddangosfa Gelf Criw Celf 
  		Published: 26/06/2015
Mae myfyrwyr sy鈥檔 cymryd rhan ym mhrosiect Criw Celf Sir y Fflint ar gyfer 
artistiaid ifanc galluog a dawnus wedi cael arddangos eu gwaith yn broffesiynol 
ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon yr wythnos hon. Mae rhai or cyfranogwyr 
wedi bod gydar Criw Celf am bedair blynedd. 
Ceir ail grwp sydd wedi dechrau eleni, gafodd ei recriwtio o flynyddoedd 5 a 6 
yn ysgolion Sir y Fflint. Trydydd grwp oedd yn arddangos oedd plant iau yn 
cymryd rhan mewn Celf Criw Bach sydd wedi bod yn gweithio gydar artist, Honor 
Pedican ar ddydd Sadwrn yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint.
Mae鈥檙 myfyrwyr yn y grwpiau Criw Celf wedi dysgu technegau ac wediu cyflwyno i 
gyfryngau ychwanegol at yr hyn a g芒nt fel arfer yn yr ysgol, a dangosodd y 
gwaith dilynol dalent a ddatblygwyd gan ein hartistiaid ifanc yn Sir y Fflint. 
Mae pob grwp Criw Celf wedi gweithio gyda thri artist proffesiynol am ddau 
ddiwrnod llawn gyda phob un. Roedd y grwp hyn yn cael eu tiwtora gan yr Artist 
Gweledol Ticky Lowe, Artist Gweledol ar Arlunydd Catrin Webster, a鈥檙 
Gwneuthurwr Basgedi Mandy Coates. Dros gyfnod o bedair blynedd, maent wedi 
gweithio gyda 12 o artistiaid proffesiynol. Roedd y grwp Criw Celf iau yn eu 
blwyddyn gyntaf yn gweithio gyda鈥檙 Artist Gwydr Rhian Haf, Artist Tecstilau 
Cefyn Burgess a鈥檙 Artist Amgylcheddol, Tim Pugh.
Roedd y cyfranogwyr Criw Celf yn cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel ac o safon y 
gellid ei arddangos mewn unrhyw oriel gelf broffesiynol. Dangosodd y grwp Criw 
Celf Bach addewid o beth fydd y plant ieuengaf yn gallu ei gynhyrchu os byddant 
yn parhau gydar rhaglen Criw Celf. 
Dechreuodd y prosiect Criw Celf yng Ngwynedd yn 2007 ac mae wedi bod yn 
bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd.  Ers 2012, 
mae Cyngor M么n, Cyngor Sir Ddinbych, Cy ngor- Sir y Fflint a Chyngor 
Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi datblygu鈥檙 prosiect yn eu rhanbarthau sy鈥檔 
golygu mai hwn yw鈥檙 prosiect celf gweledol cyntaf ledled Gogledd Cymru sydd 
wedi鈥檌 anelu at artistiaid ifanc mwy galluog a thalentog. Ariennir Criw Celf yn 
Sir y Fflint gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar Adain Celfyddydau, Diwylliant a 
Digwyddiadau, Cyngor Sir y Fflint sydd hefyd wedi datblygu鈥檙 prosiect ar gyfer 
y sir. 
Llun
Chwith i鈥檙 dde: Beth Ditson, Rhian Haf, Is-Gadeirydd Peter Curtis, Mandy 
Coates, a Honor Pedican. Y plant o鈥檙 chwith i鈥檙 dde yw: Olivia Ashbrook, Ysgol 
Uwchradd y Fflint,  Liam Martin, Ysgol Gronant,  Callum Martin, Ysgol Uwchradd 
Prestatyn, Elias Kardzin, Ysgol Gymraeg Gwenffrwd.