Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Neuadd gymuned yn agor ar ei newydd wedd
Published: 29/06/2015
Mae Neuadd Gymuned Cilfan yn y Fflint wedi agor yn swyddogol wedi iddi gael ei
hailwampio.
Mae cryn dipyn o waith wedi鈥檌 wneud i wella ac addasu鈥檙 neuadd, a fydd yn awr
yn hygyrch i bawb.
Mae鈥檙 rhain yn cynnwys cegin newydd a thapiau lifer yn y sinc; mae鈥檙 waliau
wedi鈥檜 paentio mewn lliwiau cyferbyniol, ynghyd 芒鈥檙 canlynol: goleuadau i
helpu鈥檙 rhai 芒 nam ar eu golwg; rheiliau llaw mewn lliw cyferbyniol ar hyd ramp
y brif fynedfa; drws t芒n newydd a ramp a rheiliau mewn lliw cyferbyniol; toiled
hygyrch; bleindiau ar yr holl ffenestri i leihau disgleirdeb a lloriau
gwrth-lithr drwy鈥檙 neuadd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a
ail-agorodd y Neuadd yn swyddogol:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn fod y Cyngor wedi medru buddsoddi yn y neuadd gymuned
boblogaidd hon. Mae鈥檔 bwysig bod pawb yn gallu defnyddio a mwynhau Neuadd
Gymuned Cilfan, ac mae鈥檙 addasiadau a鈥檙 gwaith ailwampio a wnaed yn golygu y
bydd hynny鈥檔 digwydd yn awr.鈥
Roedd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes, ac aelodau鈥檙 ward
leol, y Cynghorydd Alex Aldridge a鈥檙 Cynghorydd David Cox yn bresennol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Alex Aldridge:
鈥淢ae鈥檔 braf bod yma i weld y Ganolfan Gymuned yn ailagor yn ffurfiol ar ei
newydd wedd. Rwyf fi, a鈥檓 cyd-gynghorydd David Cox, wedi bod yn pwyso ar y
Cyngor ers tro i fuddsoddi yn y Neuadd hon sy鈥檔 cael ei defnyddio鈥檔 aml.
Gobeithio y caiff ei defnyddio llawn cymaint yn y dyfodol.鈥