Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y frwydr yn erbyn y ffromlys chwarennog 
  		Published: 24/06/2015
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i helpu i frwydro yn erbyn ffromlys 
chwarennog.
Ddydd Iau, 2 Gorffennaf, am 6pm bydd prosiect blynyddol rheoli ffromlys 
chwarennog Dyffryn Alun yn dechrau, gyda digwyddiad clirio ffromlys chwarennog 
yn yr Wyddgrug. Byddwn yn cyfarfod ar y cae rygbi yn Leadmills yn yr Wyddgrug, 
ychydig oddi ar Heol y Brenin.
Dyma fydd seithfed flwyddyn y prosiect, sy鈥檔 ceisio cael gwared ar y planhigyn 
ymledol o Afon Alun. Diolch ir gwaith sydd wedi鈥檌 wneud hyd yma mae yna 
newidiadau sylweddol a chadarnhaol iw gweld ar hyd Afon Alun rhwng Llandegla 
ar Wyddgrug. Nid yw鈥檙 glannau bellach wedi鈥檜 dominyddu gan y ffromlys 
chwarennog pinc, yn hytrach mae yna amrywiaeth o weiriau brodorol, brwyn a 
blodau gwyllt. 
Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
鈥淩ydym ni鈥檔 ddiolchgar iawn ir holl wirfoddolwyr sydd wedi gwneud y prosiect 
yn llwyddiant, ond mae arnom angen help pawb unwaith eto eleni! Rydym ni鈥檔 
chwilio am gymaint o wirfoddolwyr 芒 phosibl i gymryd rhan a bydd y digwyddiad 
lansio hwn yn ffordd wych o gael blas ar yr hyn sydd angen ei wneud. 
鈥淏ydd rhan gyntaf y digwyddiad ddydd Iau yn golygu torchi llewys a chlirio鈥檙 
ffromlys chwarennog am awr. Wedyn bydd bwffe ar gael i wobrwyo pawb am eu 
gwaith caled.鈥 
Meddai Lawrence Gotts, Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint:
鈥淵munwch 芒 ni a鈥檔 helpu i ennill y frwydr yn erbyn y ffromlys chwarennog! Maer 
digwyddiad ar agor ir cyhoedd, ond gallwch archebu鈥檆h lle hefyd - a fydd yn 
ein helpu ni i wybod faint fydd yn bresennol. Am ragor o wybodaeth, neu i 
archebu lle, anfonwch e-bost i loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk neu 
ffoniwch 01352 810586/614. Dewch ag esgidiau glaw a menig!
Nodiadau i Olygyddion
Daethpwyd 芒鈥檙 ffromlys chwarennog i Ynysoedd Prydain yn 1839 o Orllewin yr 
Himalaia. Mae鈥檔 perthyn i鈥檙 planhigyn gwely blodau Betsan brysur ac enw arall 
arno yw Jac y neidiwr. Dros y blynyddoedd diwethaf, maer planhigyn pinc 
anfrodorol wedi lledaenun gyflym ar hyd ein hafonydd a鈥檔 nentydd. Gall dyfu 
hyd at ddau fetr o uchder ac nid yw fawr o ddefnydd i fywyd gwyllt brodorol, yn 
wir, bydd yn tagu llystyfiant eraill ar hyd glannau afonydd. Yn ystod y gaeaf 
bydd y planhigyn yn marw ac yn gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i 
erydu.