Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwyl Gwanwyn 2015
  		Published: 17/06/2015
Yn ddiweddar bu dros 50 o ofalwyr yn Sir y Fflint yn arddangos eu paentiadau 
dyfrlliw ac yn perfformio cerddi a rhyddiaith roeddynt wedi eu creu ar thema 
鈥楽iwrneiau鈥. 
Fe gr毛wyd y cerddi a鈥檙 rhyddiaith yn ystod cyfres o weithdai ysgrifennu 
creadigol yn Llyfrgell yr Wyddgrug a gynhaliwyd yn rhan o Wyl y Gwanwyn. 
Cynhaliwyd y gweithdai dan arweiniad y bardd, gweithiwr cymunedol, a 
gwneuthurwraig ffilmiau, Suzanne Iuppa. 
Creodd y gofalwyr, ac aelodau or Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd 
Ddwyrain Cymru (GOGDdC) a gynhaliodd y prosiect, amrywiaeth o ddarnau sensitif 
a chraff oedd yn adlewyrchu siwrneiau o ddarganfyddiad a drawsffurfiodd eu 
bywydau ac a newidiodd eu safbwynt ar y byd. 
Meddai Suzanne Iuppa:
 鈥淒wi鈥檔 meddwl bod ein cymdeithas yn sylweddoli mwy a mwy faint mae pobl hyn 
wedi ei gyfrannu mewn gwybodaeth, profiad ac enghreifftiau o ddewrder, yn 
enwedig  mewn cyfnod o newid. Ond hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint, 
Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfreithwyr Keen a 
Kelley, Yr Wyddgrug a Gwyl y Gwanwyn am glustnodi amser er mwyn helpu鈥檙 grwp 
ynysig o unigolion ddod at eu gilydd, a chofio hyn. Yng ngeiriau un gofalwr yn 
ei 80au ar orffen y cwrs - Rydych wedi fy neffro.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
 鈥淢ae Gwyl y Gwanwyn yn gyfle gwych i roi cefnogaeth i ofalwyr y sir, a鈥檜 
hannog i fod yn greadigol. Darparwyd cyllid a chefnogaeth ar gyfer y prosiect 
hwn gan Gwyl y Gwanwyn sydd yn rhan o Age Concern, Adran y Celfyddydau, 
Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint, a Chyfreithwyr Keene a Kelly. 
Cafodd y prosiect ei ddatblygu ai reoli gan Adran y Celfyddydau, Diwylliant a 
Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint.鈥
Lluniau
Llun: 1. Y grwp o feirdd yn perfformio yn y digwyddiad
Llun: 2. Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Ray Hughes gydag ymddiriedolwr GOGDdC, 
Diane Weed