Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyfnod cyffrous ar gyfer canol tref y Fflint
  		Published: 15/06/2015
Mae gwaith ar y gweill i glirior blociau olaf o fflatiau deulawr syn weddill 
yn y Fflint drwy ddymchwel Feathers Lea sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn 
diwedd mis Awst. 
The Walks fydd y safle cyntaf i gael ei ail-ddatblygu fel rhan o Raglen Dai ac 
Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor lle bydd cyfuniad o 95 o dai cyngor a thai 
fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu gyda鈥檙 gwaith adeiladu i fod i ddechrau 
ym mis Ionawr 2016.
Bydd cynllun ailddatblygu safle The Leas yn cynnwys adeiladu cynllun Gofal 
Ychwanegol 72 uned newydd ar gyfer y dref a fydd yn cael eu hadeiladu au 
rheoli gan Grwp Tai Pennaf.  Bydd gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau ym mis 
Hydref 2015, a rhagwelir y bydd yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2017.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn codi canolfan feddygol newydd ar 
safle The Leas ac mae鈥檙 gwaith adeiladu i fod i ddechrau ym mis Tachwedd a 
disgwylir y bydd y gwaith wedi鈥檌 gwblhau ym mis Tachwedd 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai,
Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous, nid yn unig ar gyfer canol tref y 
Fflint, lle bydd 167 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod y ddwy 
flynedd nesaf ar hen safle鈥檙 fflatiau deulawr, ond ar gyfer y sir gyfan gan mai 
nod cynllun SHARP y cyngor yw adeiladu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y 
Fflint dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys dros 200 o dai cyngor newydd. Bydd 
Safon Tai Sir y Fflint a ddatblygwyd drwy ymgynghori 芒 thenantiaid, yn llywio 
cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys ansawdd yr edrychiad 
mewnol ac allanol, safonau effeithlonrwydd ynni a darpariaeth parcio.鈥
Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter,
Mae safler fflatiau deulawr wedi cael ei glirio fesul cam er mwyn ein galluogi 
i ail-gartrefu鈥檙 tenantiaid a effeithiwyd yn ofalus ac mae swyddogion y cyngor 
wedi gweithion galed gydan tenantiaid i ddyrannu cartrefi newydd syn bodloni 
eu gofynion ar gyfer y math o eiddo a lleoliad cyn belled ag y bo modd.
鈥淲rth ir cyngor ai bartneriaid symud yn nes at wireddu eu huchelgeisiau ar 
gyfer adfywio Canol Tref y Fflint, hoffwn ddiolch i bobl y Fflint a busnesau 
lleol am eu hamynedd au dealltwriaeth wrth ir gwaith hwn fynd yn ei flaen.鈥
Dywedodd Y Cynghorydd Ian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Prif Gynllun y Fflint,
鈥淕yda fy nghyd-gynghorwyr lleol Alex Aldridge a David Cox hoffwn ddiolch i bawb 
a symudodd eu cartref i ganiat谩u鈥檙 datblygiad cyffrous hwn i ddwyn ffrwyth. Mae 
eu cydweithrediad au dealltwriaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Hoffem ddangos ein 
diolch a鈥檔 gwerthfawrogiad hefyd i bawb syn ymwneud 芒r prosiect am eu 
gweledigaeth, eu sgiliau, ymroddiad a鈥檜 penderfyniad i wthior cynllun yn ei 
flaen.
鈥淏ydd y gwaith o ddatblygu llety cynllun gofal ychwanegol newydd yn dechrau鈥檙 
Hydref hwn ac erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf dylai fod gennym ddarlun clir 
o ganol tref newydd y Fflint yn codi o鈥檙 hen un.鈥
Nodiadau i olygyddion
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde:  Y Cynghorydd Alex Aldridge, Clare Budden, Prif Swyddog 
Cymuned a Menter, Y Cynghorydd Helen Brown, Nic Evans, Uwch Reolwr Gwasanaethau 
Tai Cyngor, Tony Jones, Michael Freeley of J. Freeley Ltd ac Y Cynghorydd David 
Cox,