Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhaglen SHARP - partner datblygu wedi鈥檌 gyhoeddi 
  		Published: 11/06/2015
Mae carreg filltir bwysig wedi鈥檌 chyrraedd yn Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 
(SHARP) uchelgeisiol Sir y Fflint, a fydd yn gweld tai cyngor newydd a thai 
fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y sir.
Mae鈥檙 contractwr tai fforddiadwy, Wates Living Space, wedi cael ei benodi fel y 
partner datblygu ar gyfer y prosiect, syn ganlyniad proses gaffael fawr.
Mae Wates Living Space yn un o fusnesau gwasanaethau datblygu ac adeiladu mwyaf 
blaenllawr DU, syn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyflwyno 
rhaglenni tai ac adfywio cymunedol newydd, y mae galw mawr amdanynt.  Maer 
cwmni wedi gweithion flaenorol gydar Cyngor ar ei raglen gwella Safon Ansawdd 
Tai Cymru.
Mae hyn yn golygu bod y cynigion i adeiladu 500 o gartrefi newydd - y bydd tua 
200 ohonynt yn dai cyngor - yn gallu cael eu cwblhau nawr. Bydd y rhaglen yn 
dechrau gydag ailddatblygu tri safle - dau safle trefol ac un gwledig. Dyma 
safleoedd yr hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi鈥檜 clirio i wneud lle i 
oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei Connah a 
gliriwyd, a safle gwledig yng Nghoed-llai.
Mae鈥檙 cynigion yn seiliedig ar Safon Tai Sir y Fflint sydd wedi鈥檌 datblygu mewn 
ymgynghoriad 芒 thenantiaid. Bydd y safon yn llywio cynllun a manyleb y tai 
newydd arfaethedig, gan gynnwys cysondeb ac ansawdd da o ran edrychiad mewnol 
ac allanol y tai, yn ogystal 芒 safonau effeithlonrwydd ynni a phwysigrwydd 
parcio digonol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: 鈥淢ae penodiad Wates 
Living Space fel y partner datblygu yn gyffrous iawn, a fydd yn gweithio gydar 
Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy newydd ac sydd wir eu hangen ar draws y Sir. 
Bwriedir ymgynghori ymhellach ar ddyluniad y cartrefi newydd, gan amcangyfrif y 
bydd ceisiadau cynllunio鈥檔 cael eu cyflwyno ddiwedd 2015.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淢aen newyddion gwych 
ein bod nawr yn cymryd cam mawr arall ymlaen yn y rhaglen tai ac adfywio mwyaf 
cyffrous y mae鈥檙 Sir hon wedi鈥檌 gweld ers blynyddoedd lawer. Bydd y rhaglen 
SHARP yn cyflawni blaenoriaethau鈥檙 Cyngor hwn, nid yn unig i ddarparu cartrefi 
Cyngor newydd a thai fforddiadwy i bobl Sir y Fflint, ond hefyd i ddarparu 
gwaith lleol a chyfleoedd hyfforddi.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge,  Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr 
Amgylchedd:  鈥淢ae hwn yn sicr yn ddiwrnod hanesyddol i Sir y Fflint. O fewn 
cyd-destun pwysau parhaus ar wasanaethaur Cyngor, maer rhaglen SHARP yn rhoi 
gobaith go iawn a chyfleoedd i bob cymuned yn Sir y Fflint.鈥
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes Rhanbarthol yn Wates Living Space: 鈥淢ae 
gan Wates Living Space berthynas hirsefydlog gyda Chyngor Sir y Fflint ac rydym 
yn hynod falch yr ymddiriedwyd ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol newydd ynom.
鈥淵n ogystal 芒 chartrefi o ansawdd uchel syn gwella ansawdd bywyd tenantiaid 
Sir y Fflint, rydym yn cyfrannu ymrwymiad dwfn i鈥檙 rhaglen hon i greu budd 
parhaol lleol, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth leol.鈥
Nodiadau i Olygyddion
Am Wates Living Space
Mae Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yn un o brif ddarparwyr tai 
fforddiadwy a chynnal a chadw yn y DU.  Gan weithredu ar draws y DU, mae鈥檔 
canolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai 
yn eu cymunedau lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy 
waith cynnal a chadw ymatebol ac wedi鈥檌 gynllunio. 
Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 118 o flynyddoedd yn 么l, yn cyflogi dros 2,000 
o bobl ac fe gafodd drosiant o fwy na 拢1 biliwn yn 2014. Dyma鈥檙 cwmni preifat 
cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc y Gymuned gan Fusnes yn y Gymuned ac 
yn 2013 cafodd ei ddyfarnu gyda鈥檙 Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am 
Ddinasyddiaeth Gorfforaethol i gydnabod ei arweinyddiaeth a鈥檌 ragoriaeth wrth 
fuddsoddi yn y gymuned.