Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
  		Published: 11/06/2015
Maer Cyngor wedi diweddaru ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i sicrhau ei 
fod yn parhau i fod yn awdurdod lleol syn perfformion dda er gwaethaf y bwlch 
ariannol heriol a芒r cyllidebau sy芒n cael eu lleihau pob blwyddyn.
Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2015 - 2018 yn rhagweld yr adnoddau 
tebygol a fydd ar gael ir Cyngor yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf ac yn 
helpu i gynllunio芒r ffordd orau iw defnyddio. Mae gostyngiadau grantiau 
Llywodraeth Cymru, y galw cynyddol am wasanaethau hanfodol a chost 
rhwymedigaethau cyfreithiol yn rhai or pwysau ariannol y maer Cyngor yn eu 
hwynebu. Ar hyn o bryd fe ragwelir y bydd ar y Cyngor angen canfod 脗52.8 miliwn 
yn y tair blynedd nesaf: 脗18.3 miliwn yn 2015/16, 脗20.8 miliwn yn 2016/17 ac 
脗13.7 miliwn yn 2017/18.
Bydd y Cabinet yn trafod rhan gyntaf y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddydd 
Mawrth 16 Mehefin, gan ganolbwyntio ar y rhagolygon ariannol. Y pum prif 
ffactor a ystyrir fydd: pwysau costau cenedlaethol, pwysau costau lleol, incwm, 
gweithlur Cyngor, a chwyddiant.
Mae ail ran y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei ddatblygu ar hyn o 
bryd ac mae芒n nodi芒r atebion ar dewisiadau sydd ar gael ir Cyngor i helpu i 
gaur bwlch cyllido hwn. Mae Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet wedi adolygur 
dewisiadau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, gan dynnu ar y cynlluniau 
busnes syn datblygu ar gyfer pob portffolio. Maer gwaith hwn, yn ogystal 脙 
strategaethau芒r Cyngor ar gyfer newid sefydliadol a diwygio gwasanaethau, yn 
ffurfio ail ran y Strategaeth. Byddwn yn ymgysylltu芒n llawn ag Aelodau ar ei 
ddatblygiad yn ystod yr haf. 
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
芒Mae pob cyngor yng Nghymru yn wynebu sefyllfa ariannol nad ydym ni wedi ei 
gweld o芒r blaen. Mae cael rhagolwg tymor canolig cywir yn y cyfnod hwn o 
ansicrwydd economaidd yn heriol ac maen rhaid i ni wneud rhai rhagdybiaethau, 
ond rydym ni芒n teimlo bod y Strategaeth hon yn asesiad teg. Mae Sir y Fflint yn 
gweithion ddiflino i gwrdd 脙r bwlch cyllido mawr ac rydym ni芒n parhau i fod 
yn ymrwymedig i fod yn Gyngor effeithlon a chost effeithiol, ond mae yna derfyn 
ar yr hyn y gall ein gwasanaethau cyhoeddus eu gwneud yn wyneb y toriadau 
blynyddol.芒
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr y Cyngor: 
芒Maer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn ddogfen arwyddocaol syn rhagweld 
sefyllfa ariannol y Cyngor yn y tair blynedd nesaf. Yn y flwyddyn ariannol 
gyfredol, rydym ni wedi canfod y rhan fwyaf or arbedion drwy symleiddior 
Cyngor ac arbed costau. Ond, pob blwyddyn rydym ni芒n gorfod bod yn fwy 
creadigol gydan cynilion - a dyna pam rydym ni芒n dal yn apelio at gymunedau i 
weithio efo ni dan ein rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol. Rydw i hefyd yn 
annog pawb i ddarllen y ddogfen hon - maen nodi sefyllfa ariannol y Cyngor 
mewn modd hygyrch iawn.
Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gael fel rhan o raglen y Cabinet yn 
www.siryfflint.gov.uk