Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Costau gwresogi cymunol
  		Published: 11/06/2015
Mae tenantiaid rhai o dai鈥檙 Cyngor ar fin derbyn ad-daliad am eu costau 
gwresogi.
Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunol ledled Sir y Fflint lle mae tenantiaid yn 
elwa o gyfradd contract masnachol a redir gan y Cyngor ac a gytunir 12 mis o 
flaen llaw.  Ar y dechrau mae鈥檙 Cyngor yn talu am y tanwydd ac yna鈥檔 casglu鈥檙 
arian gan y tenantiaid ar ben eu rhent wythnosol, gyda鈥檙 nod o adennill y 
costau erbyn diwedd pob blwyddyn ariannol.  Mae costau tanwydd yn seiliedig ar 
y swm a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan fod prisiau ynni wedi bod yn is 
na鈥檙 disgwyl, adferwyd costau gwresogi dros ben mewn rhai ardaloedd.  Yn 
Bolingbroke a Richard Heights yn y Fflint, bydd pob tenant sy鈥檔 rhan o鈥檙 
cynllun gwresogi cymunol yn derbyn ad-daliad o 拢55.97.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2015/16), mae鈥檙 Cyngor wedi medru prynu nwy 
am bris is nag y llynedd.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin, gofynnir i Aelodau gymeradwyo 
gostyngiad yn y costau gwresogi wythnosol.  Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo 
ad-daliadau naill ai ar ffurf credyd rhent os oes gan y tenant 么l-ddyledion 
rhent neu drwy siec os yw鈥檙 cyfrif rhent yn gyfredol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Dai:
鈥淩wy鈥檔 eithriadol o falch ein bod yn gallu cynnig ad-daliad i rai o鈥檔 
tenantiaid ar eu biliau ynni a鈥檔 bod yn gallu cynnig gostyngiad yn ein taliadau 
gwresogi ar draws pob un o鈥檙 naw cynllun gwresogi cymunol y flwyddyn ariannol 
hon.  Roedd costau tanwydd eisoes yn werth am arian ac mae鈥檙 taliadau newydd 
hyn yn golygu y bydd rhai o鈥檔 tenantiaid yn talu cyn lleied 芒 拢6.12 yr wythnos 
i wresogi eu cartrefi.鈥