Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Defnyddio Symiau Gohiriedig
  		Published: 11/06/2015
Bydd dod o hyd i ffyrdd mwy hyblyg o ddarparu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint 
yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin.
Swm gohiriedig yw arian a delir gan ddatblygwyr i鈥檙 Cyngor pan fydd maint 
datblygiad tai yn mynnu fod tai fforddiadwy鈥檔 cael eu darparu, ond pan nad oes 
modd cyflawni hynny鈥檔 briodol ar y safle.
Gofynnir i Aelodau鈥檙 Cabinet gymeradwyo polisi ynglyn 芒 sut i wario symiau 
gohiriedig er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy ledled y Sir.
Trwy ddefnyddio cytundebau Adran 106, caiff symiau gohiriedig eu clustnodi er 
mwyn darparu tai fforddiadwy mewn amryw o ffyrdd.  Mae鈥檙 rhain yn cynnwys prynu 
tir ar gyfer tai fforddiadwy; mentrau sy鈥檔 cynorthwyo prosiectau adfywio tai, 
gan gynnwys cynnig benthyciadau i fynd i鈥檙 afael 芒 chartrefi gwag; a 
chyfraniadau ariannol tuag at ddatblygiad tai fforddiadwy a thai rhenti 
cymdeithasol a chynlluniau perchnogaeth cartrefi cost isel.
Lle bo hynny鈥檔 bosibl, caiff yr arian a gesglir o symiau gohiriedig ei wario yn 
yr un ardaloedd Cyngor Cymuned ag y cawsant eu cynhyrchu.  Bydd y Cyngor yn 
defnyddio鈥檙 arian cyn pen pum mlynedd ar 么l i鈥檙 swm gael ei dderbyn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Dai:
鈥淢ae tai fforddiadwy鈥檔 uchel ar restr flaenoriaethau鈥檙 Cyngor ac mae defnyddio 
symiau gohiriedig mewn ffordd hyblyg yn profi ein hymrwymiad i sicrhau fod ein 
holl breswylwyr yn cael cyfle i gael mynediad at eu cartrefi eu hunain yn 
lleol.鈥