Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Yr Ymosodiad
  		Published: 17/06/2015
Mae sefydliadau ar draws gogledd Cymru a Swydd Gaer yn chwilio am wirfoddolwyr 
i helpu i fynd ir afael 芒 rhywogaethau anfrodorol ymledol ar lannau Afon 
Dyfrdwy ai llednentydd.
Yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus o Ddiwrnod Mawr Afon Dyfrdwy - Yr Ymosodiad, 
maer digwyddiad yn cael ei gynnal unwaith etor haf hwn. 
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae 60 o ddigwyddiadau wedi eu cynnal ac mae 
gwirfoddoli wedi treulio cyfanswm o bron i 2,000 o oriau yn mynd ir afael 芒 
rhywogaethau anfrodorol ymledol fel planhigion Jac y neidiwr, llysiaur dial ac 
efwr enfawr.
Mae rhaglen gydlynol o weithgareddau gwirfoddol yn cael ei chynnal o fis yma 
tan fis Awst gyda gwahanol gyfleoedd i bobl gymryd rhan, o darddiad yr afon ym 
Mharc Cenedlaethol Eryri hyd at aber Afon Dyfrdwy.
Maer digwyddiad yn agored i bawb ar draws y rhanbarth i helpu i gael gwared ar 
blanhigion anfrodorol ymledol o lannau Afon Dyfrdwy ai llednentydd ac i 
gofnodi ardaloedd problemus. Byddwn yn mynd i鈥檙 afael 芒 rhywogaethau 
anfrodorol, a ddygwyd i Brydain naill ain ddamweiniol neun fwriadol, sy鈥檔 
gallu achosi problemau mawr i fywyd gwyllt brodorol yn ogystal 芒 chael 
effeithiau eraill, fel gwneud glannau afonydd yn fwy tueddol o erydu a chynyddu 
perygl llifogydd.
Mae partneriaeth o sefydliadau Cymreig a Seisnig, gan gynnwys gwasanaethau cefn 
gwlad pum Awdurdod Lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect 
Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol Afon Dyfrdwy, Cadwch Gymrun Daclus, 
Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ac 
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gyfrifol am drefnu鈥檙 digwyddiad, sy鈥檔 
cael ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd Cyngor Sir y 
Fflint:
鈥淢ae Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy - Yr Ymosodiad yn mynd o nerth i nerth pob 
blwyddyn ac mae鈥檔 gyfle gwych i ni gael effaith gadarnhaol ar Afon Dyfrdwy an 
hamgylchedd lleol. Hoffem ddiolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu dros y 
ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydw i鈥檔 annog unrhyw un sydd 芒 diddordeb i gymryd 
rhan a galw draw i鈥檞 digwyddiad agosaf i roi help llaw. 
鈥淵n Sir y Fflint, bydd Cyngor Sir y Fflint, Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru 
ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cydweithio ac yn arwain t卯m o 
wirfoddolwyr ger Afon Alun ddydd Mawrth 23 Mehefin, ddydd Iau 25 Mehefin, ddydd 
Iau 2 Gorffennaf a dydd Iau 16 Gorffennaf.鈥
Meddai Meryl Norris, Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon 
Dyfrdwy: 鈥淢ae ymdrechion y gwirfoddolwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi 
gwneud y digwyddiad yma鈥檔 llwyddiant go iawn. Maer gwahanol ddigwyddiadau 
Taclo Jac y Neidiwr鈥 sy鈥檔 cael eu cynnal yn y dalgylch yn ffordd wych o fynd 
allan am dro a gweld lleoliadau hardd ar lan yr afon a鈥檔 helpu ni i fynd ir 
afael 芒 chadwraeth.鈥
Os hoffech chi neu鈥檆h grwp gymryd rhan a thaclo planhigion Jac y neidiwr neu 
lysiau鈥檙 dial, neu os hoffech chi gadw golwg ar blanhigion anfrodorol a 
chofnodi eu lleoliad, cysylltwch 芒鈥檆h cyswllt lleol am fwy o wybodaeth am yr 
hyn sy鈥檔 cael eu cynnal yn eich ardal chi neu ewch i 
www.facebook.com/BigDeeDayTheInvasion neu www.dinns.org.uk.
Cysylltiadau Lleol
Swydd Gaer
Laura George
lgeorge@cheshirewt.org.uk
01948 820728
Parc Cenedlaethol Eryri
Gethin Davies
g.davies@eryri-npa.gov.uk 
01766 772255
Sir Ddinbych/AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Rhun Jones
rhun.jones@denbighshire.gov.uk
01978 869618
Sir y Fflint
Lawrence Gotts 
lawrence.w.gotts@flintshire.gov.uk
01352 703263
Wrecsam
Liz Carding 
Liz.carding@wrexham.gov.uk
01978 292000
Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy
Meryl Norris
merylnorris@wildlifetrustswales.org
07880 197942
Nodiadau i Olygyddion:
Fech gwahoddir i anfon gohebydd a ffotograffydd i Fferm y Rhug, Corwen (LL21 
0EH) ar gyfer lansiad swyddogol Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Yr Ymosodiad am 1pm 
ddydd Gwener 26 Mehefin lle bydd staff, pwysigion a gwirfoddolwyr. 
Cysylltwch 芒 merylnorris@wildlifetrustswales.org / 078 80197942 am fwy o 
wybodaeth.
   
Ynghylch Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Yr Ymosodiad
Mae Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Yr Ymosodiad yn chwaer ddigwyddiad i 
Ddigwyddiad Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Glanhau鈥檙 Afon sydd wedi ei gynnal ers 2008. 
Dechreuodd yr ymosodiad yn 2013, pan gafodd ei gynnal dros ddeuddydd (28 a 29 
Mehefin) gydag 17 o ddigwyddiadau ar hyd a lled y dalgylch. Roedd y 
digwyddiadau hyn yn cynnwys mynd i鈥檙 afael 芒 phlanhigion Jac y neidiwr. Yn 2014 
cafodd y digwyddiad ei gynnal drwy fis Gorffennaf gyda 40 o ddigwyddiadau a 
gwirfoddolwyr yn rhoi cyfanswm o 1,680 o oriau o鈥檜 hamser. 
Mae Grwp Llywio Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 鈥 Yr Ymosodiad yn cynnwys y 
sefydliadau canlynol - Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor 
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect 
Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy, Cadwch Gymrun Daclus, 
Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, 
Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a Chyfoeth Adnoddau Cymru.
Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy
Mae Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy yn brosiect 
partneriaeth trawsffiniol syn ceisio rheoli rhywogaethau anfrodorol ymledol yn 
ardal Afon Dyfrdwy yng Nghymru a Lloegr mewn modd cydlynol a chyfannol. 
Sefydlwyd y prosiect yn 2012 yn dilyn gweithdy gan Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy 
Cymru. Yn 2013, yn dilyn sefydlu grwp llywior prosiect, lluniwyd cynllun 
gweithredu strategol. 
Maer prosiect yn gweithion agos gyda sefydliadau a grwpiau gwirfoddol i 
sicrhau bod ganddynt yr adnoddau ar wybodaeth i reoli rhywogaethau anfrodorol 
ymledol yn effeithiol ac i鈥檞 galluogi i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau 
anfrodorol ymledol a bioddiogelwch.  
Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy: Meryl Norris 
merylnorris@wildlifetrustswales.org 078 80197942.  
Rhywogaeth Anfrodorol Ymledol
Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn rhywogaethau, anifeiliaid neu鈥檔 
blanhigion a ddygwyd i Brydain o wledydd eraill ac sy鈥檔 cael effaith negyddol 
ar ein hamgylchedd, ein heconomi a鈥檔 lles. Maer rhywogaethau hyn yn costio 
dros 拢1.7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain, a rhain yw鈥檙 ail fygythiad mwyaf 
i fioamrywiaeth. Mae rhywogaethau fel Jac y neidiwr a llysiau鈥檙 dial yn cynyddu 
cyfraddau erydu ac yn gallu achosi llifogydd; mae鈥檙 efwr enfawr yn cynnwys sudd 
syn achosi llosgiadau difrifol i groen pobl; mae鈥檙 minc Americanaidd wedi 
achosi gostyngiad sydyn yn niferoedd llygod pengrwn y dwr brodorol ac mae鈥檙 
rhain wedi diflannu o rai ardaloedd lleol yn gyfan gwbl; ac mae cimwch afon 
America yn cario pla cimwch syn lladd ein cimwch bodiog gwyn brodorol ac sydd 
wedi achosi dirywiad sylweddol yn eu niferoedd.