Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Tai Gofal Ychwanegol y Fflint yn cael ei enwi
Published: 09/06/2015
Bydd y Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer pobl hyn yn y Fflint yn
cael ei enwi yn Llys Raddington.
Yn ddiweddar, cafodd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, syn rhan o Grwp Tai Pennaf,
ganiat芒d cynllunio ar gyfer adeiladu鈥檙 cynllun ar dir oddi ar Stryd Coleshill,
sydd Ar hyn o bryd yn eiddo i鈥檙 Awdurdod Lleol.
Bydd Llys Raddington yn darparu 73 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell
wely ynghyd ag ystod eang o gyfleusterau cymunedol, a bydd yn cael ei reoli gan
Tai Clwyd Alyn Cymdeithas mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint.
Mae鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, syn Gadeirydd ar Grwp Llywio Uwch gynllun y
Fflint, yn egluro:
鈥淢ae Raddington yn enw sy鈥檔 gysylltiedig iawn 芒 hanes y Fflint, gan mai dyma
oedd enwr anheddiad gwreiddiol. Cafodd y dref a elwir bellach yn y Fflint ei
grybwyll gyntaf yn llyfr y Domesday yn 1086, lle cyfeiriwyd ato fel
Raddington. Dymar ardal lle cafodd Castell y Fflint ei adeiladu, ond erbyn
diwedd y 13eg ganrif, cafodd bwrdeistref y Fflint ei chreu, a diflannodd yr enw
Raddington.
鈥淎wgrymwyd Raddington i ddechrau gan y Cynghorydd Vicky Perfect, a oedd am weld
yr enw鈥檔 ymddangos fel rhan o adfywiad y Fflint. Pan ddaeth i benderfynu ar enw
ir
cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd, teimlais mai dyma oedd y cyfle perffaith,
ac felly cytunwyd ar yr enw Llys Raddington.
鈥淵r wythnos hon yn unig, rydym yn darganfod mwy a mwy am darddiad canoloesol y
dref. Rydym yn teimlo bod yr enw hwn yn berffaith ac yn briodol, gan gysylltu
hanes balch y Fflint gyda dyfodol cyffrous y dref.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒yma gam mawr arall ymlaen ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn
Sir y Fflint. Gydar Cyngor a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn
partneriaeth gydai gilydd, rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld y cynllun hwn
yn blodeuo. Bydd Llys Raddington yn darparu Cyfleusterau ardderchog i wneud
gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion.鈥
Ychwanegodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y
Fflint:
鈥淢ae enw Llys Raddington yn ddewis gwych ac ysbrydoledig. Maer cynllun Gofal
Ychwanegol yn y Fflint yn gyfle arall gwych i ddatblygu tai syn galluogi i
bobl hyn gael
dewis newydd, tran cynnal eu hannibyniaeth au lles.鈥
Dywedodd Graham Worthington ar gyfer Grwp Tai Pennaf:
鈥淏ydd y cynllun newydd, fel anheddiad gwreiddiol Raddington, mewn lleoliad
allweddol gan fod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned. Rydym yn credu ei bod yn
ffordd ddelfrydol o groesawu鈥檙 dyfodol gydag ymdeimlad haeddiannol o barch
tuag at dreftadaeth yr ardal.鈥
Gall unrhyw un sydd am gofrestru i gael pecyn gwybodaeth am y fflatiau newydd
gysylltu 芒 Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ar 01745 538300 neu e-bostio
enquiries@clwydalyn.co.uk