Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Archifdy Sir y Fflint – Taleb Sul y Tadau
  		Published: 03/06/2015
Eleni bydd Archifdy Sir y Fflint yn gwerthu taleb Sul y Tadau arbennig.
Mae’r daleb yn costio £25 a bydd y sawl sydd yn ei derbyn yn gallu ei defnyddio 
i dalu am awr o waith ymchwil ar bwnc y cytunir arno, neu sesiwn diwtorial 
un-i-un efo aelod o staff yn yr Archifdy.   
Meddai’r Prif Archifydd, Claire Harrington:
Mae’r anrheg yma’n addas i hanesydd profiadol neu nofis. Sut bynnag y mae’n 
dewis gwario’i daleb, ar waith ymchwil neu sesiwn un-i-un yn yr Archifdy, 
byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich tad wrth ei fodd efo’i 
anrheg. 
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr Archifdy ar 01244 532364 rhwng 9am a 4 pm ddydd 
Llun, Mawrth, Iau neu ddydd Gwener.