Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sesiwn Wybodaeth ar Faethu
  		Published: 28/05/2015
Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ofalwr maeth ac arnoch chi eisiau gwybod 
mwy? 
Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth (1 鈥 14 Mehefin), mae Gwasanaeth Maethu Cyngor 
Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ddydd Iau 4 Mehefin yng Ngwesty鈥檙 Days, 
Garden City, Queensferry. 
Mae鈥檙 noson yn dechrau am 7pm gyda chyflwyniad, sy鈥檔 ateb cwestiynau cyffredin 
am faethu. 
Bydd y noson hefyd yn gyfle i chi gwrdd ag aelodau o鈥檙 t卯m a dysgu mwy am sut y 
gallwch chi helpu, naill ai drwy faethu鈥檔 llawn amser neu drwy gynnig seibiant, 
helpu gyda chysgu dros nos neu ymweliadau. 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol: 
鈥淎r hyd a lled y Deyrnas Unedig mae yna gynnydd yn nifer y plant mewn gofal, ac 
mae arnom ni eisiau pobl Sir y Fflint gamu ymlaen a gweld a fedran nhw faethu. 
Pob blwyddyn mae gofalwyr maeth profiadol yn gadael  oherwydd ymddeoliad neu 
resymau teuluol eraill, ac felly mae angen recriwtio gofalwyr maeth newydd o 
hyd.  
鈥淢ae gan wasanaeth maethu Sir y Fflint 114 o ofalwyr maeth sy鈥檔 gwneud gwaith 
penigamp (y nifer uchaf erioed yn yr awdurdod lleol) ond mae鈥檙 rhan fwyaf 
ohonyn nhw eisoes yn gofalu am blant a鈥檜 gwl芒u yn llawn. Rydym ni ar hyn o bryd 
yn edrych ar 么l dros 200 o blant ac, yn y 12 mis diwethaf, roedd ar 77 o blant 
eraill angen gofal maeth, sef o leiaf 6 phlentyn pob mis. Mae yna hefyd 
gynlluniau i ymestyn gofal maeth i鈥檙 rheiny dros 18 oed ac i wneud hyn bydd 
arnom ni angen mwy o ofalwyr maeth. Nid yw鈥檔 hawdd, ond mae bod yn ofalwr maeth 
yn rhywbeth gwerth chweil.鈥
Meddai Jill Jones o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth, heb 
orfod ymrwymo i unrhyw beth. 鈥淢ae maethu yn agored i bobl sengl, priod, pobl 
sy鈥檔 byw gyda鈥檌 gilydd, yn gweithio, wedi ymddeol, pobl ddi-waith, pobl hoyw a 
str锚t, dim ots faint yw鈥檆h oed chi na faint o blant sydd gennych chi. Yn fwy na 
dim, rydym ni鈥檔 chwilio am bobl sy鈥檔 gallu cynnig cartref sefydlog a diogel, ac 
sydd 芒鈥檙 ymrwymiad, sgiliau a鈥檙 gallu i edrych ar 么l plant sydd wedi gorfod 
gadael eu teuluoedd eu hunain.鈥 
I wybod mwy, ewch i www.flintshirefostering.org.uk