Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyngor yn derbyn y lefel uchaf o werthusiad mewn Adolygiad o Gartrefi Gofal 
  		Published: 18/05/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn y lefel uchaf o werthusiad yn Adolygiad 
Cartrefi Gofal diweddaraf Comisiynydd Pobl Hyn Cymru.
Mae Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, Sarah Rochira, wedi cyhoeddi  adroddiad yn 
ddiweddar “Lle i’w Alw’n Gartref?’, yn dilyn ei hadolygiad o ansawdd bywyd a 
gofal i bobl hyn syn byw mewn cartrefi gofal ledled Cymru. 
Dyma’r adolygiad mwyaf oi fath iw gynnal erioed yng Nghymru, ac maer 
adroddiad yn nodi gofynion ar gyfer gweithredu er mwyn sicrhau bod ansawdd 
bywyd yn ganolog i ddarparu gofal preswyl a nyrsio.
Yn yr adroddiad, gwelir fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi’u dyrannu  â 
saith gofyniad penodol i’w gweithredu, syn cynnwys sicrhau bod gan bobl hyn 
lais ac ansawdd bywyd yn eu cartrefi gofal, gan gynnwys cyfleoedd i gadw 
cyfeillgarwch syn bodoli eisoes; bod mynediad i wasanaethau arbenigol os oes 
angen, a bod staff yn cael hyfforddiant dementia fel rhan o’r datblygiad 
parhaus o’r gweithlu cartrefi gofal hanfodol dan sylw.
Ym mhob un or saith argymhelliad, derbyniodd ymateb Cyngor Sir y Fflint y 
lefel uchaf gan y Comisiynydd - yr unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i 
wneud hynny. Mae graddau’r categori yn amrywio or uchaf (derbyniol), i 
rhannol ac annerbyniol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
“Dyma gadarnhad rhagorol gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru. Mae Cyngor Sir y 
Fflint yn gwerthfawrogi ei berthynas â chartrefi gofal lleol o fewn y Sir, ac 
rydym wedi buddsoddi llawer o amser i weithio gydan gilydd i ofalu am ein pobl 
hyn. Maer Cyngor yn ymroddedig i’n partneriaeth syn gweithio gyda chartrefi 
gofal a chyda rheolwyr cartrefi gofal yn benodol, ac rwy’n falch bod yr 
ymrwymiad hynny wedi’i gydnabod.
Mae manylion llawn am yr adroddiad i’w gael yn 
http://www.olderpeoplewales.com/en/Reviews/Residential_Care_Review.aspx