Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwynhewch yr awyr agored 鈥 yn eich ardal leol!
Published: 22/10/2020
Yn fwy nag erioed, mae busnesau lleol Sir y Fflint angen ein cefnogaeth ac wedi gwneud newidiadau sylweddol er mwyn cydymffurfio 芒 rheoliadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i鈥檔 cadw ni oll yn ddiogel.听 Bydd siopa鈥檔 lleol am eitemau hanfodol yn ystod y Cyfnod Atal Byr yn helpu ac yn cefnogi ein siopau lleol i darparu cyflenwadau hanfodol yn ystod y cyfnod atal byr.听
Gyda鈥檙 nosweithiau鈥檔 dechrau mynd yn hwy a鈥檙 tywydd yn oerach ac yn wlypach, mae鈥檔 demtasiwn i aros gartref ac ymgilio rhag y tywydd.听 Hefyd, mae cyfyngiadau鈥檙 cyfnod atal byr yn golygu y bydd yn rhaid i nifer ohonom aros gartref am dros bythefnos.听听
O ystyried hyn, nid yw鈥檙 buddion o dreulio amser yn yr awyr agored, gwneud ymarfer corff a chael ychydig o awyr iach erioed wedi bod mor berthnasol.听 Os ydym yn dechrau teimlo ein bod wedi cael llond bol, dan straen oherwydd ein gwaith, neu wedi laru ar syllu ar yr un pedair wal bob dydd, gallai treulio ychydig o amser yn yr awyr agored wneud byd o les i ni a rhoi hwb i鈥檙 ysbryd.听 听
Mae cerdded, er enghraifft, yn fuddiol iawn i鈥檔 hiechyd corfforol, mae鈥檔 ein helpu i golli pwysau, rhoi hwb i鈥檔 system imiwnedd, rhoi mwy o egni i ni a gwella ansawdd ein cwsg. Yn ogystal 芒 hynny, mae鈥檔 helpu i leihau straen, rhoi hwb i greadigrwydd, gwella ein hwyliau ac yn hyrwyddo ein lles emosiynol a meddyliol.听
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff i鈥檔 hiechyd meddwl a chorfforol. Bydd y cyfnod atal byr hwn yn caniat谩u i ni gael cyfle i ymarfer y corff yn rheolaidd, cyn belled ein bod yn gwneud hyn yn ein hardal leol naill ai ar ein pennau ein hunain neu gydag aelodau o鈥檔 haelwyd.听 听 Yn ogystal 芒 hynny, ystyrir bod cyfuno ymarfer corff gyda mynd 芒鈥檙 ci am dro neu alw heibio yn y siop leol i brynu eitemau hanfodol yn rhesymol.听
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd;
鈥淐aniateir i siopau sy鈥檔 gwerthu eitemau hanfodol aros ar agor yn ystod y cyfnod atal byr, er mwyn gwasanaethu a chefnogi eu cymunedau yn yr un modd ag y maent wedi bod yn ei wneud drwy gydol y pandemig.听听
听鈥淏ydd nifer o鈥檔 busnesau lleol hefyd yn darparu gwasanaethau cyflenwi a siopa ar-lein er mwyn sicrhau fod trigolion Sir y Fflint yn derbyn eu nwyddau hanfodol yn ystod y cyfnod hwn.鈥澨
听