Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22
Published: 15/10/2020
Yn eu cyfarfod ar 20 Hydref, bydd gofyn i aelodau鈥檙 Cabinet adolygu鈥檙 rhagolygon cyffredinol ar gyfer cyfnod 2021/22 - 2023/24 a chyfeirio at y rhestr o bwysau costau ar gyfer 2021/22 i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd.
Bydd gofyn hefyd i鈥檙 aelodau drafod y datrysiadau sydd ar gael i ateb y pwysau costau yma ac ail osod y strategaeth ariannu ar gyfer 2021/22.
Mae鈥檙 adroddiad hwn yn rhoi diweddariad o鈥檙 sefyllfa a ragfynegwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2020 ar gyfer 2021/22 a鈥檙 ddwy flynedd ariannol ddilynol. Roedd y pwysau costau a nodwyd ar gyfer 2021/22 ar y pryd yn 拢9.829m.听
Mae adolygiad llawn, sy鈥檔 rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau cyfredol y sefyllfa argyfyngus, wedi ei gynnal er mwyn creu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau costau y bydd angen eu hariannu.听
Mae鈥檙 sefyllfa ddiweddaraf a ragwelir isod. Dyma鈥檙 arian y byddwn angen dod o hyd iddo i lenwi'r bwlch yn y gyllideb:
2021/22 - 拢14.423m - 拢27.336m
2022/23 - 拢9.447m - 拢13.036m
2023/24 - 拢8.982m - 拢11.996m
Bydd rhagolygon ar gyfer 2022/23 a 2023/24 yn parhau i gael eu paratoi ynghyd 芒鈥檙 gwaith i gytuno ar gyllideb 2021/22 wrth i鈥檙 penderfyniadau a wneir trwy鈥檙 broses effeithio ar amcanestyniadau鈥檙 blynyddoedd i ddod.听
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:听
"Mae鈥檙 sefyllfa argyfyngus yn parhau i gael effaith sylweddol ar sail costau鈥檙 Cyngor, a鈥檌 allu i greu incwm. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau ynglyn ag ariannu sydd wedi rhoi peth sicrwydd ynglyn 芒 sut y bydd y costau ychwanegol a cholli incwm yn gallu cael eu hadennill yn y flwyddyn ariannol bresennol.听
"Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fod cyllideb yr hydref wedi ei gohirio ac yn ei dro, mae hynny鈥檔 effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Ond, rydym yn disgwyl y bydd rhyw fath o Adolygiad o Wariant y DU ar ddyddiad i鈥檞 gyhoeddi.听
"Rydym yn wynebu heriau na welwyd erioed eu bath eleni ac mae dewisiadau effeithlonrwydd y Cyngor yn brin iawn ar 么l blynyddoedd o gyni ariannol."听
Mae鈥檙 pwysau costau wedi eu categoreiddio fel hyn:听
- Penderfyniadau / cymeradwyaeth y blynyddoedd a fu gan gynnwys:
- 听Estyniad i gartref gofal Marleyfield;
- Gostyngiad Person Sengl sy鈥檔 fudd un-tro am eleni鈥檔 unig.
- Colli incwm - gostyngiad yn y galw sy鈥檔 effeithio ar lefelau incwm a gyllidwyd ar draws amrediad o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys:
- Gostyngiad mewn gwerthiant ynni (yn ddibynnol ar argaeledd y nwy a gynhyrchir gan ddau safle tirlenwi wedi eu cau);
- Marchnadoedd - mae gweithgarwch wedi lleihau dros amser yn ogystal 芒 nifer yr ymwelwyr yn gostwng o ganlyniad i sefyllfa COVID-19.
- Mynegai deddfwriaethol/di-osgoi 鈥� nad oes gennym reolaeth uniongyrchol drosto, gan gynnwys:
- Yr angen i ateb gofynion statudol ar gyfer asesiadau risg i holl gyflenwadau dwr Sir y Fflint;
- Ardoll Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru y bydd y Cyngor angen cyfrannu codiad yn 么l chwyddiant iddo.
- Materion sy鈥檔 gofyn am ddatrysiad cenedlaethol, gan gynnwys:
- Mae incwm o Dreth y Cyngor lawer yn is na鈥檙 cyfartaledd ac mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor;
- Dyfarniadau Cyflog: effaith y cynnydd yn y dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer athrawon, a chyflog nad yw ar gyfer athrawon, nad ydynt yn hysbys eto.
- Ystyriaethau Strategol, gan gynnwys:
- 听Cludiant 么l 16 鈥� newid polisi oherwydd newidiadau mewn rheoliadau sy鈥檔 golygu na fydd unrhyw incwm posibl a ragwelwyd o gludiant 么l 16 bellach yn digwydd, gan ei fod yn parhau i gael ei gynnig am ddim.听
Gellir rhannu鈥檙 datrysiadau sydd ar gael i鈥檙 Cyngor i ariannu鈥檙 pwysau costau yn dri phrif faes:
- Arian gan y llywodraeth
- Trethi ac Incwm Lleol
- Trawsnewid ac arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau听
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:听
"Mae ein strategaeth ariannu yn ddibynnol iawn ar ddigon o arian cenedlaethol i gynghorau lleol. Rydym yn derbyn ein symiau mwyaf o arian gan Lywodraeth Cymru.
"Er mwyn i鈥檙 Cyngor fod yn gynaliadwy, bydd angen i drefniadau鈥檙 dyfodol adlewyrchu pwysau ariannol cenedlaethol sydd y tu hwnt i鈥檔 rheolaeth ni, er enghraifft, dyfarniadau cyflog.听
"Nid oes unrhyw ddewisiadau cyllideb wedi eu cyflwyno ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw arbedion effeithlonrwydd o raddfa yn weddill ac nid yw鈥檙 sefyllfa wedi newid es i ni bennu鈥檙 gyllideb flynyddol ddiwethaf. Mae鈥檙 angen am wasanaethau diogel a chydnerth wedi ei amlygu yn yr ymateb i鈥檙 sefyllfa argyfyngus."
听