Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus
Published: 14/10/2020
Pan fyddan nhw鈥檔 cyfarfod ar 20 Hydref, gofynnir i aelodau鈥檙 Cabinet gymeradwyo estyniad i ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (y Gorchymyn) ar gyfer rheoli cwn ac ar gyfer rheoli alcohol.
Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus hyn i gael barn ar eu hymestyn am dair blynedd arall pan fyddant yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn.
Bwriad Gorchmynion fel hyn yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.听 听Ni allant fod ar waith am gyfnod o fwy na thair blynedd, ond mae posib鈥 eu hymestyn neu eu hamrywio os yw gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriadau rhwng 3 Awst a 4 Medi.听 Dangosodd canlyniadau鈥檙 ymgynghoriad ar reoli cwn fod mwyafrif y cyfranogwyr yn cefnogi parhad y Gorchymyn - cawsom 66 o ymatebion, gyda 64% ohonynt yn berchnogion cwn.听 Mae rhai eithriadau i鈥檙 Gorchymyn hwn, er enghraifft cwn tywys.
Unwaith eto, roedd canlyniadau ymgynghoriad y Gorchymyn rheoli alcohol yn wirioneddol cefnogi estyniad y Gorchymyn hwn - cawsom 34 o ymatebion.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淵n dilyn adolygiad o holl adborth yr ymgynghoriad, argymhellir adnewyddu'r ddau Orchymyn am gyfnod arall o dair blynedd, gan ddechrau o fis Hydref 2020, gyda'r cyfyngiadau presennol yn parhau."
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淩ydym yn argymell bod Gwasanaethau Stryd yn cynnal adolygiad llawn o arwyddion cyfredol ar gyfer y Gorchymyn rheoli cwn, ym mhob lleoliad, i sicrhau eu bod yn gyflawn ac yn gywir.听 Lle bydd angen ei ddiweddaru, byddwn yn gwneud hyn cyn gynted 芒 phosibl ac ni chymerir unrhyw gamau gorfodi nes bod yr arwyddion newydd yn eu lle.鈥
听