Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Published: 14/10/2020
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 20 Hydref.听
Yn dilyn hynny, bydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn i鈥檞 gymeradwyo.听
Mae鈥檙 adroddiad yn adlewyrchu'r cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20, ac mae'n crynhoi cyflawniadau'r sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei redeg yn dda a pherfformio'n dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol.听
Roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gydag 88% o鈥檙 gweithgareddau allweddol cytunedig yn gwneud cynnydd da a 91% yn debygol o gyflawni鈥檙 canlyniad dymunol. Yn ogystal 芒 hyn, mae 78% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac mae 59% wedi dangos gwelliant neu wedi cynnal yr un lefel o berfformiad.听
Mae'r risgiau鈥檔 cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (66%) neu fach/ansylweddol (19%); roedd 15% o鈥檙 risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn sgil diffyg adnoddau ariannol yn bennaf.
Mae rhai o鈥檔 llwyddiannau i鈥檞 gweld isod:
- 听Manteisiodd 3385 o blant ar y cynnig Gofal Plant rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.
- 听Cwblhawyd 116 o dai Cyngor drwy鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).
- 听Cynorthwywyd 94 o gyfranogwyr i ennill cyflogaeth drwy鈥檙 gwasanaeth Cymunedau am Waith a Mwy.
- 听Darparwyd 42 o sesiynau cymorth i fusnesau i gefnogi Mentrau Cymdeithasol.
- 听Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar gyfer prosiectau ysgol yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Penyffordd.
- 听Cynigiwyd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth i 72% o bobl ifanc 16 鈥� 18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid.
- 听Cyfradd ailgylchu o 82.1% ar draws bob un o safleoedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- 听Mae Sir y Fflint yn cyflawni targedau rheoli gwastraff cyn yr amserlenni statudol.
- 听Mae Parc Adfer wedi dechrau derbyn gwastraff rhanbarthol a lleol nad oes modd eu hailgylchu.
- 听听Llwyddodd 98.1% o sefydliadau bwyd i gydymffurfio 芒鈥檙 safonau hylendid bwyd
- 听Mae gwaith atgyweirio Canolfan Gymunedol Treffynnon bellach wedi鈥檌 gwblhau.听
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
"Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall."
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
"Mae'r Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda, gan osod targedau a chyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi鈥檜 nodi yng Nghynllun y Cyngor."
Mae鈥檔 rhaid cyhoeddi鈥檙 Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Hydref, bydd gofyn i鈥檙 cynghorwyr gymeradwyo鈥檙 adroddiad i gael ei gyhoeddi.
听