Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwisgo gorchudd wyneb yn orfodol ar gludiant ysgol yn Sir y Fflint
Published: 08/10/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi y bydd pob disgybl uwchradd sy鈥檔 teithio ar gludiant ysgol yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb o ddydd Llun, 12 Hydref ymlaen. Mae鈥檙 penderfyniad hwn wedi鈥檌 wneud er mwyn diogelu teithwyr ac i atal lledaeniad Covid-19. Mae Sir y Fflint mewn parth gwarchod iechyd gyda chyfyngiadau llymach i ddiogelu'r cyhoedd ac felly mae'r penderfyniad hwn yn cyd-fynd 芒 hynny.
O ystyried y cynnydd mewn trosglwyddiadau, mae鈥檔 bwysig gosod cymaint o reolyddion diogelu iechyd 芒 phosibl a bydd hyn yn dod 芒 Sir y Fflint yn unol 芒 siroedd eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Gyda lledaeniad y coronafeirws yn cynyddu yn Sir y Fflint a siroedd cyfagos, mae gofyn rwan i blant a phobl ifanc 11 oed a hyn wisgo gorchudd wyneb mewn cerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol (yn union fel y mae鈥檔 rhaid gwneud ar gludiant cyhoeddus.听
Mae rhai plant a phobl ifanc wedi鈥檜 heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb, ac mae鈥檙 eithriadau hyn hefyd yn berthnasol i gludiant ysgol.听
Does dim rhaid i blant dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb ond mae rhwydd hynt iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw鈥檔 gallu gwisgo un yn unol 芒'r cyfarwyddiadau.听听
Meddai Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:
鈥淢ae diogelu plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn flaenoriaeth. Mae arnom ni eisiau cadw鈥檙 plant mewn addysg ac mae cyflwyno鈥檙 rheol hon ar bob cerbyd cludiant i鈥檙 ysgol yn mynd i鈥檔 helpu ni wneud hynny.
鈥淩ydym ni鈥檔 teimlo bod gwneud y penderfyniad hwn rwan yn fesur ychwanegol pwysig i helpu i ddiogelu plant a phawb sy鈥檔 dod i gysylltiad 芒 nhw rhag Covid-19. Gofynnwn i rieni a gofalwyr egluro pwysigrwydd hyn i鈥檙 plant a sicrhau bod ganddyn nhw fasgiau efo nhw pan fyddan nhw'n teithio ac yn mynd i'r ysgol.听 听听
鈥淩ydym ni鈥檔 sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rydym ni鈥檔 gwerthfawrogi鈥檆h cydweithrediad yn fawr iawn - diolch!鈥
听