Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn 鈥榓il don鈥 yng ngogledd Cymru
Published: 30/09/2020
Mae pedwar cyngor yng ngogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn cefnogi cyfyngiadau ychwanegol er mwyn helpu i frwydro Coronafeirws yn y rhanbarth.
O 6pm ddydd Iau ymlaen, bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Golygai鈥檙 cyfyngiadau na fydd trigolion yn cael teithio allan o'r sir y maent yn byw ynddi heb reswm dilys.
Y gobaith i鈥檙 partneriaid yw drwy gymryd y camau hyn yn gynnar gellir arafu'r cynnydd mewn achosion sydd wedi ei weld dros yr wythnos ddiwethaf - gan helpu i ddiogelu pobl leol rhag y feirws, yn ogystal ag amddiffyn busnesau rhag mesurau cloi llymach i鈥檙 dyfodol.
Mae gan y ddau gyngor arall yng ngogledd Cymru 鈥 sef Ynys M么n a Gwynedd 鈥 gyfraddau is o鈥檙 Coronafeirws ar hyn o bryd, ond maent yn parhau i gadw llygaid fanwl ar y sefyllfa.
Dywed y Cynghorydd Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy:
鈥淩ydym i gyd yn gwybod bod y ffigyrau鈥檔 codi, felly mae cymryd camau cynnar i reoli lledaeniad y firws ac i amddiffyn iechyd pobl yn hanfodol. Trwy gefnogi mesurau ychwanegol nawr, mae gennym well siawns o wyrdroi鈥檙 sefyllfa, gan gadw pobl yn ddiogel.鈥
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
鈥淢ae鈥檔 gwneud synnwyr i Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam weithio efo鈥檌 gilydd o ystyried y cynnydd mewn achosion. Fodd bynnag, mae鈥檔 rwy鈥檔 pwysleisio y bydd y cyfyngiadau鈥檔 golygu na fydd preswylwyr yn cael teithio鈥檔 rhydd rhwng y siroedd dan sylw, oni bai bod ganddyn nhw reswm dilys.鈥
O 6pm ddydd Iau daw鈥檙 cyfyngiadau canlynol i rym:
- Ni chaniateir i bobl ddod i mewn na gadael y sir y maent yn byw ynddi (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) heb reswm da, er enghraifft teithio i'r gwaith neu addysg;
- Am y tro, dim ond tu allan yn yr awyr agored y bydd hawl gan bobl i gwrdd ac eraill nad ydynt yn byw yn yr un ty. Ni chaniateir ffurfio na bod yn rhan o gartrefi estynedig (a elwir yn 鈥渟wigen鈥 hefyd weithiau).
Gofynnir hefyd i breswylwyr gofio cadw at y canllawiau presennol, sy'n cynnwys:
- Aros gartref os oes gennych symptomau Coronafeirws a threfnu prawf ar unwaith.
- Gweithio gartref os yn bosib.
- Osgoi rhannu ceir.
- Rhaid i'r rhai hyn na 11 oed wisgo gorchudd wyneb neu fwgwd mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Gorchuddiwch eich ceg os ydych yn tisian neu'n pesychu.
- Cadwch eich dwylo'n l芒n.
- Rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau erbyn 10pm, gyda gwasanaeth bwrdd yn unig. Rhaid i bob siop roi'r gorau i werthu alcohol o 10pm.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn gwybod y bydd llawer o fusnesau yn poeni am gyfyngiadau pellach, ond trwy gymryd y mesurau hyn nawr, rydym yn gobeithio y gallwn eu hamddiffyn rhag yr angen am gyfyngiadau tynnach yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y rheoliadau llymach hyn."
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: 鈥淢ae'n gydbwysedd rhwng iechyd pobl a'r economi, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w gael yn iawn.
鈥淏ydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu鈥檔 gyson wrth i ni geisio rheoli lledaeniad y firws yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.鈥
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淒oedd gennym ddim dewis arall ond cefnogi gweithredu鈥檔 gynnar er mwyn atal lledaeniad y feirws. Mae cyfradd yr achosion yn lleol yng nghynnydd y feirws wedi dyblu dros y pythefnos diwethaf. Mae disgwyl y bydd yn parhau i godi. Oni bai ein bod yn gweithredu鈥檔 lleol, yna gallai鈥檙 sefyllfa waethygu allan o reolaeth. Rydym ni wir yn deall bod hyn yn golygu fod yn rhaid i bawb wneud aberthau. Rydym ni鈥檔 apelio ar i bawb fod yn gyfrifol ac i ddilyn y cyfyngiadau lleol.鈥
Mae manylion llawn am y cyfyngiadau, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael ar
听
听