Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu鈥檙 Rhwydwaith Bysiau
Published: 18/09/2020
Ar 22 Medi bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo canlyniad yr adolygiad o鈥檙 Trefniadau Teithio Lleol, a oedd yn angenrheidiol oherwydd Covid-19 a cholli gwasanaethau bysiau masnachol lleol.听
Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol nac unrhyw ffurf arall o gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, mae鈥檔 ddyletswydd statudol ar y Cyngor i adolygu鈥檙 rhwydwaith bysiau ac ymyrryd pan fo鈥檔 briodol.听
Ym mis Gorffennaf 2018 cymeradwyodd y Cabinet fodel cludiant newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, a oedd yn cynnwys rhwydwaith bysiau craidd wedi鈥檌 gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy. Mae鈥檙 rhwydwaith craidd yn cynnwys nifer o gyrchfannau (canolfannau) allweddol, fel prif drefi neu gyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus / gorsafoedd rheilffordd 芒 chysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda gwasanaethau bysiau sy鈥檔 rhedeg rhwng y canolfannau i gysylltu teithwyr 芒 chyrchfannau allweddol eraill i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a chyfleusterau iechyd, cymdeithasol a hamdden. Mae鈥檙 rhwydwaith craidd yn cynnwys gwasanaethau bysiau masnachol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i gael ei darparu i sicrhau bod cysylltiadau yn cael eu cadw a bod gwasanaethau rheolaidd o ansawdd uchel yn parhau i gysylltu鈥檙 canolfannau allweddol ar hyd y rhwydwaith. Mae鈥檙 rhwydwaith craidd yma yn cael ei gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy sydd wedi鈥檜 cyflwyno鈥檔 llwyddiannus mewn sawl ardal yn y sir.听
Wrth i fwy o wasanaethau masnachol gael eu hatal gan weithredwyr, roedd angen cynnal adolygiad o'r gwasanaethau cludiant lleol presennol er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny鈥檔 well i ddarparu cysylltiadau cludiant hanfodol i breswylwyr wedi'u heffeithio gan golli鈥檙 gwasanaethau masnachol hyn.听听
Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淢ae Covid-19 yn amlwg wedi amharu ar yr adolygiad o鈥檙 Trefniadau Teithio Lleol. Ers i鈥檙 cyfnod clo ddod i ben, rydym ni wedi gorfod cael llai o deithwyr ar gerbydau a chyhoeddi amserlenni diwygiedig i fodloni gofynion teithwyr, ond mae pethau i鈥檞 gweld yn gweithio鈥檔 dda. Er ein bod ni yn y cyfnod adfer, mae gweithredwyr wedi adrodd cynnydd yn hyder defnyddwyr cludiant.听
鈥淏ydd adolygiad o wasanaethau Trefniadau Teithio Lleol yn Nhreffynnon a鈥檙 ardal gyfagos yn dechrau cyn bo hir, a dw i鈥檔 falch o ddweud bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu dau fys trydan ar gyfer gwasanaethau LT7 ac LT4. Byddan nhw wedi鈥檜 lleoli ym Mwcle ac mi fydd hi鈥檔 wych gweld y cerbydau yn cael eu pweru gan ffynhonnell ynni鈥檙 Cyngor o fferm solar gyfagos.鈥
Mae adolygiad y Cyngor o Drefniadau Teithio Lleol yn parhau i fod yn broses barhaus ac mae cynigion pellach yn cael eu harchwilio ar gyfer y misoedd nesaf.
听