Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tai Teg: cyfleoedd i gael tai fforddiadwy
Published: 09/09/2020
Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ledled Gogledd Cymru mae Tai Teg yn siop un alwad sefydledig ar gyfer tai fforddiadwy i鈥檞 rhentu neu eu prynu.听
Mae gan bobl sydd wedi cofrestru gyda Tai Teg gyfle i ddefnyddio un o sawl dewis i gael cartref sy鈥檔 rhatach na'r rhai sydd ar y farchnad agored.听
Mae Rhent Canolradd yn cynnig ffordd fwy fforddiadwy o rentu cartref. Mae'r rhent fel arfer tua 20% yn rhatach sy鈥檔 rhoi cyfle i bobl gynilo ar gyfer blaendal i helpu i brynu cartref yn y dyfodol. Mae angen i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth neu beidio 芒 bod yn llwyr ddibynnol ar fudd-daliadau.
Mae Rhentu i鈥檞 Brynu yn helpu pobl i brynu'r cartref maent yn ei rentu. Mae cyfran o鈥檙 rhent a delir yn cael ei gadw ac mae'r ffigwr a gronnwyd yn gweithredu fel cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais i brynu鈥檙 cartref. Mae angen i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth ac yn gallu cael morgais.听
Mae Rhan Ecwiti yn darparu cyfle i bobl brynu cartref am bris mwy fforddiadwy. Mae prynwr yn prynu cyfran o鈥檙 cartref (70% fel arfer) trwy forgais neu gynilion. Mae鈥檙 cyngor neu鈥檙 gymdeithas tai yn berchen ar y gyfran o 30% sy鈥檔 weddill. Nid oes unrhyw rent i鈥檞 dalu ar y gyfran nad ydych yn ei berchen.
Yn Sir y Fflint, mae dros 20 o gynlluniau tai fforddiadwy ledled y sir yn cael eu hysbysebu ar wefan Tai Teg. I gofrestru gyda Tai Teg (yn amodol ar y meini prawf cymhwyso) neu i ddarganfod mwy am y cartrefi sydd ar gael yn Sir y Fflint ewch i:听 ;听
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Dave Hughes;
鈥淢ae Tai Teg yn darparu cyngor arbenigol, deallus ochr yn ochr 芒 dewisiadau ymarferol a fforddiadwy i rentu neu brynu cartrefi o safon. Hoffwn annog unrhyw un sy鈥檔 edrych am gartref newydd yn Sir y Fflint i ddarganfod mwy am Tai Teg a beth allai gynnig iddynt.鈥
听