天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Prydau Ysgol am Ddim 鈥� Rhieni sydd â phlant yn y derbyn

Published: 07/09/2020

Os yw eich plentyn (neu blant) bellach wedi dechrau yn y dosbarth derbyn ac rydych wedi ymgeisio am brydau ysgol am ddim, mae Cyngor Sir y Fflint angen eich manylion cyfrif banc er mwyn gallu gwneud taliad uniongyrchol diogel o 拢19.50 fesul plentyn ar gyfer y cyfnod o bythefnos o ddychwelyd i鈥檙 ysgol yn raddol, 1 Medi hyd 11 Medi 2020.听

Bydd angen i chi roi cinio i鈥檆h plentyn neu dalu am bryd gan ddefnyddio dull o dalu sydd fwyaf addas i鈥檙 ysgol ar y diwrnodau mae eich plentyn yn mynychu鈥檙 ysgol yn ystod y cyfnod hwn. Bydd eich plentyn yn cael cinio ysgol am ddim o 14 Medi 2020.

Nodwch eich manylion gan ddilyn y ddolen ddiogel isod:

Rydym angen y wybodaeth hon erbyn dydd Gwener 11 Medi 2020.

听