Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn lansio ei feicro-ofalwyr cyntaf
Published: 25/08/2020
Mewn ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni鈥檙 galw cynyddol am ofal mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chadwyn Clwyd, wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy鈥檔 gallu darparu gofal i鈥檞 preswylwyr. Enw鈥檙 dull newydd hwn yw Meicro-Ofal.
Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy鈥檔 amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy鈥檔 cyflogi pump o bobl, sy鈥檔 cynnig gwasanaethau gofal, cefnogi neu les hyblyg wedi鈥檜 personoli (fel siopa, glanhau neu gwmn茂aeth) i bobl ddiamddiffyn, wedi鈥檜 teilwra i anghenion yr unigolyn. Gall y meicro-ofalwyr hyn roi cefnogaeth neu ofal i rywun sydd wedi cael asesiad ffurfiol o fod angen gofal gan yr awdurdod lleol a gallant hefyd gynnig amrediad o ddatrysiadau gwasanaeth i bobl sydd eisiau prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat.听
Er gwaethaf yr heriau a gr毛wyd gan Covid-19, rydym wedi llwyddo i sefydlu nifer o ddarparwyr meicro-ofal newydd a hoffem gyflwyno sawl un ohonynt i chi:
Christine oedd ein meicro-ofalwr cyntaf i gael ei sefydlu. Mae ei busnes, o'r enw Gofal Cartrefle, yn cynnig gofal a chefnogaeth bersonol ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi dau gwsmer yn ardal y Fflint.
Mae Scott yn rhedeg Myther Me, ac yn cynnig gwasanaethau gofal a chefnogi personol, ynghyd 芒 gofalu am anifeiliaid anwes a darparu llety cwn pan fydd pobl yn gorfod mynd i鈥檙 ysbyty a鈥檜 bod angen rhywun i ofalu am eu hanifail anwes. Mae wedi鈥檌 leoli yn ardaloedd Licswm a Threffynnon
Sefydlodd Katherine Katherine鈥檚 Home Care and Support, yn cynnig gwasanaethau gofal a chefnogi yn y pentrefi sy鈥檔 agos i ffin Sir Ddinbych.听
Y meicro-ofalwr diweddaraf i ddod drwy ein rhaglen ansawdd yw Ema.听 Sefydlodd Gofal Opal ac mae wedi鈥檌 lleoli yn ardal Bwcle.
Mae鈥檔 falch gennym ddweud hefyd ein bod 芒 sawl darparwr posibl arall yn mynd drwy鈥檙 rhaglen ar hyn o bryd, gyda鈥檙 gobaith y byddant yn gallu darparu gofal a chefnogaeth yn ein cymunedau lleol yn fuan.听
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
鈥淵n ystod yr amser anodd hwn, rydym ni, fel llawer o bobl eraill, wedi gorfod addasu ein harferion a鈥檔 prosesau gweithio i ddarparu gwasanaethau hanfodol i鈥檔 cymunedau.
鈥淢ae Meicro-Ofal yn cynnig ymagwedd wahanol at ddarparu amrediad o wasanaethau personol sydd wir eu hangen ar bobl ddiamddiffyn. Rwy鈥檔 siwr y bydd Meicro-Ofal yn llwyddiannus a bydd yn dod yn rhan bwysig o sut rydym yn darparu gofal yn ein cymunedau lleol.鈥
Am fwy o wybodaeth am ein meicro-ddarparwyr, cysylltwch 芒 Marianne Lewis neu Rob Loudon ar 01352 702126 neu 01352 702461 am sgwrs, neu e-bostiwch nhw ar micro-care@flintshire.gov.uk. Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio mwy o feicro-ofalwyr ar draws y Sir, felly os ydych yn meddwl y gallech helpu i gefnogi pobl yn eich cymuned leol, neu鈥檔 adnabod rhywun a all fod 芒 diddordeb mewn dod yn Meicro-Ofalwr, yna cysylltwch 芒 ni.
听
听
听