天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Prydau Ysgol Am Ddim Mis Medi 2020

Published: 14/08/2020

Gan na fydd pob grwp blwyddyn yn dychwelyd i鈥檙 ysgol yn llawn amser yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref, bydd rhieni plant sy鈥檔 gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn taliad uniongyrchol diogel ar gyfer y cyfnod o 1 Medi tan 11 Medi 2020.

Yn ystod y bythefnos hon, oherwydd y bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn taliad uniongyrchol (fel sydd wedi bod yn digwydd ers mis Mai), ni fydd y plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ar y diwrnodau y byddan nhw yn yr ysgol.听 听

Yn hytrach, bydd yn rhaid i rieni/gofalwyr ddarparu pecyn cinio neu roi arian i鈥檙 plant brynu pryd ysgol drwy ddull talu dewisol yr ysgol.听听

O ddydd Llun 14 Medi bydd plant yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim yn 么l yr hen drefn, a bydd y taliadau uniongyrchol yn dod i ben.

Disgyblion Blwyddyn 12听

Os yw plentyn sy'n dychwelyd i flwyddyn 12 yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, bydd yn rhaid i鈥檙 rhiant/gofalwr ailymgeisio ar-lein drwy wefan Cyngor Sir y Fflint.听听

听