Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol
Published: 12/08/2020
听
Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yma .
Hon yw bedwaredd flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy鈥檔 cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae gan y Cyngor lawer i'w ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys:
- Agor Hwb Cyfle.
- Datblygu ein cyfleusterau Gofal Ychwanegol.听
- Bod yn Gyngor sydd yn 鈥楪weithio Tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia鈥, y cyntaf yng ngogledd Cymru.听
- Ein hadborth cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn eu harchwiliad.
- Gweithredu Prosiect Mentrau Gofal Bychain.听
- Llwyddiannau parhaol gyda Progress for Providers.
Heb os nag oni bai, fe fydd y flwyddyn o鈥檔 blaenau yn un heriol wrth i ni sylweddoli beth yw effaith Covid-19 ar ein poblogaeth, ein busnesau, gwasanaethau a鈥檔 cymunedau. Mae鈥檙 mesurau llym newydd ar gyfer teithio hanfodol a chadw pellter cymdeithasol wedi arwain at newidiadau mawr i鈥檙 hyn rydym wedi ei ystyried yn normal. Bellach mae yna ddealltwriaeth newydd o鈥檙 gwaith rhagorol mae ein cydweithwyr yn y gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud bob dydd. Dylid parhau i ddathlu鈥檙 gweithlu yma fel arwyr ynghyd 芒鈥檙 gweithlu iechyd, y rhai sydd yn gweithio yn y gadwyn gyflenwi cynhyrchu bwyd, gweithwyr danfoniadau a phost, gwirfoddolwyr a llawer mwy.听
Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol:听
鈥淢ae鈥檙 adroddiad cynhwysfawr yma鈥檔 gosod sefyllfa gadarnhaol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau digyffelyb presennol ar wasanaethau, mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi鈥檙 preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn y sir. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi rhaglen lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu henw da cadarnhaol鈥.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:听
鈥淢ae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg o'n perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Yn benodol, mae wedi bod yn dda gweld sut mae ein swyddogion wedi addasu a pharhau i gefnogi ein preswylwyr yn ystod y cyfnod anodd yma.听 听Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau鈥.
Mae鈥檙 adroddiad blynyddol yn amlinellu鈥檙 blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2020/2021. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:听
- Gweithredu Cerdyn ID Gofalwyr Ifanc cenedlaethol.听
- Datblygu opsiynau cefnogaeth i rieni a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl isel/cymedrol.听
- Datblygu ein Cynllun Gweithredu nesaf i gefnogi pobl sy鈥檔 byw gyda Dementia a鈥檜 gofalwyr, a pharhau i gael ein hadnabod fel Cyngor sy鈥檔 鈥楪weithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia鈥.听
- Sefydlu t卯m amlddisgyblaethol i ddarparu asesiad 鈥榶mateb cyflym鈥 a chymorth i blant a theuluoedd sydd ar ymylon gofal.听
- Gweithredu model maethu 鈥楳ockingbird鈥.
- Gweithio gyda phobl ifanc a darparwyr addysg bellach i greu cyfleoedd i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i gael mynediad听 at addysg听
- Gweithio i leihau yn ddiogel y nifer o blant sy鈥檔 mynd i鈥檙 system ofal a gwella canlyniadau y rheiny sydd mewn gofal.
- Cwblhau Rhaglen Gofal Ychwanegol.听
- Datblygu cynlluniau ymestyn gofal preswyl mewnol.听
- Cynyddu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i atal digartrefedd ymysg pobl ifanc 16-24.
听