天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Adfer Gymunedol Parc Adfer yn cael ei lawnsio

Published: 30/07/2020

听Heddiw, mae鈥檔 bleser gan Bartneriaeth y Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) a Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i lawnsio Gronfa Adfer Cymunedol i helpu cymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy o effaith y sefyllfa argyfwng ddiweddar.

Fe ffurfwyd y PTGGGC gan bum Cyngor o Ogledd Cymru 鈥� Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys M么n i rheoli gwastraff gweddilliol a gynhyrchwyd gan boblogaeth y pum awdurdod lleol. Gwastraff gweddilliol yw鈥檙 gwastraff sydd yn weddill ar 么l ailgychu a chompostio.

Bu i gyfleuster Ynni o Wastraff Parc Adfer ddechrau trin gwastraff yn 2019, yn dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chreu trydan.

Fel rhan o鈥檌 ymrwymiad i鈥檙 gymuned lleol, mae鈥檙 Bartneriaeth a WTI wedi rhoi addewid i ariannu Gronfa Budd Cymunedol 鈥� gwerth 拢230,000 y flwyddyn 鈥� i gymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy.

Ymgynghorir gyda rhanddeiliaid allweddol cymunedol yng Nglannau Dyfrdwy ar hyn o bryd ar sut fydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei rhedeg. Bydd y gronfa yn cael ei agor i geisiadau yn 2021. Yn y cyfamser, bydd Gronfa Adfer Cymunedol tymor byr yn gynorthwyo mudiadau lleol i gynnal y Cymuned fel yr ydym yn dod allan o鈥檙 sefyllfa argyfwng hon.

Y math o fudiadau fydd yn gymwys am gymorth yw 鈥� mudiadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol, ac elusennau lleol (nid cenedlaethol) wedi鈥檞 leoli ofewn y ardal ddiffinedig Bartneriaeth Glannau Dyfrdwy.

Y math o weithgareddau y bydd mudiadau yn gymwys i geisio am yw 鈥� i ddigolledu am golled incwm yn ystod y cyfnod cyfyngiadau coronafeirws; i gyd-ariannu gwaith adeiladu m芒n ar gyfer ail agor adeiladau cymunedol yn ddiogel; i gyd ariannu prynu offer ar gyfer ail agor adeiladau a gwasanaethau cymunedol yn ddiogel; i gyd ariannu gweithgareddau cymunedol newydd i rhoi cymorth i grwpiau agored i niwed; i gynorthwyo gyda chostau datblygu mudiadau cymunedol newydd; i gynorthwyo weithgareddau gwirfoddol bydd yn cynorthwyo adfeiriad; i gyd ariannu cynlluniau amgylcheddol lleol byddai鈥檔 hybu mynediad a ddefnydd cyhoeddus i鈥檙 awyr agored er gwelliant iechyd a lles.

Gwahoddir ceisiadau i鈥檙 Gronfa Adfer o Mis Medi.

Bydd y gronfa yn cael ei hysbysebu ar wefan Cyngor Sir y Fflint, cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.

听