天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau ffordd ym Magillt

Published: 24/07/2020

Yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ceisiadau drwy鈥檙 Gronfa Grant Diogelwch ar y Ffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael arian i gyflwyno gwelliannau seilwaith Diogelwch Ar y Ffyrdd a Theithio Llesol ar ffordd ddeuol yr A548 ger Bagillt a byddant yn cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21.聽

Mae鈥檙 cynigion yn cynnwys: gostwng terfyn cyflymder i 40mya ar ffordd ddeuol yr A548 wrth ddynesu at gyffordd Blossoms; gosod signalau ar gyffordd Blossoms gan gynnwys croesfan twcan arfaethedig ac argymhelliad i osod troedffordd a llwybr beicio ar y cyd ar y gerbytffordd tua'r dwyrain, a thrwy hynny, ddarparu mynediad cynaliadwy at Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Arfordir Dyfrdwy.聽

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淩ydym yn falch iawn o dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno鈥檙 gwelliannau Teithio Llesol a Diogelwch ar y Ffyrdd pwysig yma. Bydd y cynllun hwn yn gwell diogelwch ar y ffordd i ddefnyddwyr yn y lleoliad hwn, ond bydd hefyd yn rhoi mynediad hanfodol i breswylwyr o鈥檙 Stryd Fawr ym Magillt, ar draws ffordd ddeuol yr A548 ar i Lwybr Arfordir Cymru.聽

鈥淩wy鈥檔 gwybod y bydd y gymuned leol yn gweld gwerth yn y gwelliannau hyn ac fe fyddan nhw鈥檔 cael effaith fawr er mwyn annog pobl i gerdded a beicio yn ogystal 芒 gwella iechyd a lles ein cymunedau lleol.鈥

Bagillt road improvements.jpg

Cyng. Kevin Rush, Cyng. Rob Davies, Anthony Stanford (Rhoelwr Cludiant Cyngor Sir y Fflint), Cyng. Carolyn Thomas