Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Darpariaeth gofal plant dros yr haf yn Sir y Fflint
Published: 15/07/2020
Mae ysgolion Sir y Fflint wedi darparu gofal plant effeithiol iawn i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn pan oedd yr ysgolion ar gau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi鈥檌 gwneud hi鈥檔 glir iawn nad oes disgwyl i ysgolion na chynghorau barhau i gynnig gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol yn ystod gwyliau鈥檙 haf na phan fydd ysgolion yn ailagor yn llawn ym mis Medi.
Gan fod y cyfyngiadau wedi鈥檜 llacio a rheolau newydd yn caniat谩u i deuluoedd greu 鈥榓elwydydd estynedig鈥�, a mwy a mwy o ddarparwyr gofal plant preifat yn ailagor, gobeithio y bydd modd i rieni wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain ar gyfer gwyliau鈥檙 haf. O ran yr ysgolion hynny sydd 芒 chlybiau gwyliau, maen nhw wedi bod yn gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 darparwyr hynny i allu cynnig y gwasanaeth hwnnw i rieni. Bydd rhieni plant 0-4 oed sydd wedi bod yn derbyn gofal plant drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws (C-CAS) Llywodraeth Cymru, ac sydd wedi cofrestru cyn 12 Gorffennaf, yn gallu parhau i dderbyn y cymorth hwnnw tan 31 Awst.
Fodd bynnag, mae鈥檙 Cyngor yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i geisio cynnig rhai o gynlluniau chwarae gwyliau鈥檙 haf Sir y Fflint yn ystod pythefnos olaf y gwyliau haf (16-28 Awst). Bydd y cynlluniau chwarae hyn yn cael eu cynnal yn unol 芒 chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dydi pob Cyngor Tref a Chymuned ddim yn gallu cefnogi鈥檙 ddarpariaeth fyrrach hon eleni, ond mae nifer fawr ohonyn nhw yn gallu ac mae鈥檙 cynlluniau yn cael eu datblygu. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor gyda hyn a bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn eu hyrwyddo i wneud yn siwr bod rhieni yn gwybod ble mae鈥檙 cynlluniau hyn yn cael eu cynnig a sut.
听