Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion i ailagor i bob disgybl o fis Medi
Published: 15/07/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu cynlluniau gan y Gweinidog Addysg i ganiat谩u i ysgolion sy鈥檔 gallu ailagor yn ddiogel, i wneud hynny o wythnos gyntaf mis Medi, gyda phob ysgol i ailagor o 14 Medi.
Mae cynlluniau a pharatoadau lleol ar waith rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau i sicrhau bod modd i ysgolion unigol groesawu disgyblion yn 么l yn ddiogel, yn unol 芒 chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ysgolion sy鈥檔 gallu gwneud hynny yn ailagor o wythnos gyntaf y tymor. Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i rai grwpiau penodol o ddysgwyr gael eu blaenoriaethu yn ystod yr wythnos hon, fel Blwyddyn 7, 12, 13 ac Unedau Arbennig ar gyfer Ysgolion Uwchradd, Unedau Arbennig ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Blwyddyn 6. Bydd rhieni yn cael gwybodaeth fwy manwl gan eu hysgol a鈥檙 Awdurdod Lleol pan fydd ar gael.听
O 14 Medi, bydd presenoldeb yn yr ysgol yn orfodol. Gofynnir i rieni gysylltu 芒鈥檜 hysgol os na fydd disgybl yn gallu mynychu, er mwyn trafod ymhellach.
Bydd gan bob ysgol heriau lleol i roi sylw iddynt, gan gynnwys lefelau staffio. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau cludiant ysgol. Bydd Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 agos gyda phob ysgol i ddatrys materion o鈥檙 fath.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 拢29m i roi hwb i gefnogaeth i ddysgwyr i leihau effaith yr amhariad oherwydd y sefyllfa barhaus. Caiff niferoedd cyfwerth 芒 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gymhorthwyr addysgu eu recriwtio ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf, gan dargedu cefnogaeth ychwanegol at Flwyddyn 11, 12 ac 13, yn ogystal 芒 dysgwyr difreintiedig a diamddiffyn o bob oed. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i egluro鈥檙 manylion.
Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淒ros y misoedd diwethaf, bydd llawer o ddysgwyr wedi teimlo鈥檔 bryderus am fethu cyfleoedd dysgu a methu gweld eu ffrindiau. Rwy鈥檔 croesawu cynllun y Gweinidog i ganiat谩u i ysgolion groesawu disgyblion yn 么l yn ddiogel ym mis Medi yn unol 芒鈥檙 holl fesurau diogelwch angenrheidiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
鈥淩ydym yn gwybod bod staff sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed mewn ysgolion, dysgwyr a鈥檜 teuluoedd dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hynod o heriol hwn. Rydym yn parhau i weithio鈥檔 agos gydag ysgolion a lleoliadau i ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion lles parhaus pob dysgwr yn ystod y cyfnod anodd hwn.
鈥淢ae鈥檙 argyfwng wedi amharu鈥檔 ddifrifol ar waith dysgu disgyblion. Rydym yn croesawu鈥檙 addewid 拢29m gan Lywodraeth Cymru i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi鈥檙 cam adfer, lleihau鈥檙 effaith ar ddisgyblion, a pharhau鈥檙 gwaith parhaus i godi safonau ysgolion.鈥
听