Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffioedd cynlluniau gwresogi ar y cyd 2020
Published: 08/07/2020
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 14 Gorffennaf lle bydd gofyn i鈥檙 Aelodau gymeradwyo newidiadau i鈥檙 ffioedd gwresogi ar hyn o bryd ar gyfer tai cyngor sydd 芒 chynlluniau gwresogi ar y cyd.
Ar draws Sir y Fflint, mae wyth o gynlluniau gwresogi ar y cyd. Roedd naw, ond mae鈥檙 systemau gwresogi yn Panton Place, Treffynnon, wedi cael eu huwchraddio, felly mae鈥檙 tenantiaid hynny鈥檔 cael eu bilio鈥檔 uniongyrchol gan y darparwr cyfleustodau maent wedi鈥檌 ddewis ar sail eu darlleniadau eu hunain o鈥檜 mesurydd.
Mae鈥檙 Cyngor yn trafod i gytuno ar brisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae鈥檙 tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. Y Cyngor sy鈥檔 talu am y tanwydd yn y lle cyntaf cyn casglu t芒l amdano gan denantiaid, gyda'r nod o adennill y costau a dim mwy ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae ffioedd gwresogi ar gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y llynedd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae鈥檙 pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2020/21 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniat谩u i Sir y Fflint adennill y costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan drosglwyddo鈥檙 manteision o gostau ynni is i denantiaid.听 Yr eithriad yw Acacia Close, yr Wyddgrug, sy鈥檔 gweld cynnydd o 7% i gostau gwresogi (cyfartaledd ar draws y tri math o eiddo o 拢0.59c yr wythnos). Mae hyn o gymharu 芒 gostyngiad i gostau gwresogi鈥檙 safle hwn o 18% y llynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae ein gwaith arbed ynni鈥檔 helpu i gadw unrhyw gynnydd angenrheidiol mor isel 芒 phosib'.听 Rydw i鈥檔 falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad i鈥檔 costau gwresogi i鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 tenantiaid.听 Fe fydd ein t卯m ynni鈥檔 gweithio gyda darparwr ynni Acacia Close er mwyn gosod darllenwyr awtomatig i ddarparu biliau mwy cywir ac amserol.鈥
Bydd yr holl newidiadau yn dod i rym ar 31 Awst 2020.
听