天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu Ranbarthol Iechyd y Cyhoedd (Rhan 2)

Published: 08/07/2020

Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gefnogi adroddiad ar gymryd rhan lawn mewn Rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu ranbarthol pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.

Bydd hefyd gofyn iddynt gymeradwyo鈥檙 cynnig fod Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer y rhaglen ranbarthol ar ran y chwe awdurdod lleol.

Mae rhaglen Brofi, Olrhain a Diogelu (TTP) yn hanfodol er mwyn atal ail don o Covid-19, a chynllunio adferiad o鈥檙 sefyllfa argyfwng hon.听

Mae鈥檙 Bwrdd Iechyd wedi ffurfio t卯m rhanbarthol arbenigol i arwain TTP yn defnyddio gweithwyr a adleoliwyd, ac mae'r chwe chyngor wedi sefydlu timau olrhain lleol drwy ddefnyddio gweithwyr a adleoliwyd yn yr un modd. Mae hwn yn fodel canolradd sydd wedi bod ar waith ers pum wythnos.

Mae鈥檙 adroddiad yn argymell fod y rhanbarth yn symud oddi wrth y model adleoli anghynaladwy hwn i fodel cyflogi, a fydd yn cael ei ariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru gyda Sir y Fflint yn gweithredu fel yr unig gyflogwr ar gyfer y chwe awdurdod lleol. Byddai鈥檙 Bwrdd Iechyd yn gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer y t卯m arbenigol rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid i fwrw ymlaen 芒鈥檙 model cyflogaeth ac mae鈥檙 broses recriwtio ar gyfer y model hwn ar ddigwydd.听听