Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dechrau鈥檔 Deg Sir y Fflint 鈥 helpu plant a chefnogi gwarchodwyr plant
Published: 02/07/2020

Mae t卯m Dechrau鈥檔 Deg Sir y Fflint yn frwdfrydig ynglyn 芒 chreu'r cyfleoedd gorau posibl i blant ifanc.听
Rhaglen wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd targed gan gefnogi鈥檙 holl deuluoedd i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 mlwydd oed. Mae鈥檙 cynllun yn anelu i ddarparu gwasanaethau cymorth dwys i blant 0-3 oed a鈥檜 teuluoedd.
Mae Sue Formstone wedi bod yn warchodwraig plant cofrestredig ers bron i ddeuddeg mlynedd ac mae wedi bod yn gweithio gyda babanod a phlant cyn ysgol ers dros 23 mlynedd. Mae鈥檔 un o鈥檙 gwarchodwyr plant sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Dechrau'n Deg yn Sir y Fflint. Dyma beth oedd ganddi i鈥檞 ddweud:
Rwyf wedi darparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy i dair oed ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae鈥檔 bleser ymwneud 芒 Dechrau'n Deg. Efallai mai dim ond am rai tymhorau y bydd y plant gyda fi ond yn fy marn i mae鈥檔 amser cwbl hanfodol yn natblygiad plentyn. Rwy鈥檔 cael y cyfle i鈥檞 gweld yn datblygu ymhob maes, gan gynnwys yn gymdeithasol, corfforol, emosiynol a chreadigol a鈥檙 cyfan mewn cyfnod byr. Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth fy Ymgynghorydd Dechrau鈥檔 Deg, Jenny Cooper, sy鈥檔 ymweld 芒 mi a鈥檙 plant yn fy lleoliad yn rheolaidd i gynnig cefnogaeth a chyngor i mi.听
鈥淔e ddyfarnwyd grant i mi yn gynharach eleni o Grant Cyfalaf Bach 3-4 Oed Sir y Fflint ac fe brynais dy chwarae gyda hwn ac mae wir wedi gwneud gwahaniaeth mawr i鈥檙 plant rwy鈥檔 gofalu amdanynt.听
鈥淧an ddigwyddodd y cyfnod clo, roeddwn yn bryderus iawn am ddyfodol fy musnes. Ond rwyf wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod hwn gan fod y plant oedd gen i yn cael eu cefnogi drwy Dechrau鈥檔 Deg ac er nad oedd Jenny yn gallu ymweld 芒 fy lleoliad yn ystod y cyfnod clo, mae wastad wedi bod ar ben arall y ff么n drwy鈥檙 cyfnod anodd hwn, felly dydw i ddim wedi teimlo鈥檔 unig o gwbl.
鈥淢ae Dechrau鈥檔 Deg yn ymdrin 芒 rhan fawr o鈥檙 ddarpariaeth gofal plant yn Sir y Fflint. Dim ond rhan fach iawn o hyn ydw i. Ond mae fel pos jig-so mawr ac mae pob darn yn bwysig i les y plentyn, ac er mod i鈥檔 gweithio ar fy mhen fy hun rydym i gyd yn gweithio gyda鈥檔 gilydd, gyda'r plentyn yn graidd i'r cyfan.听
鈥淩ydym i gyd yn gorfod dod o hyd i ffyrdd o addasu i鈥檙 normal 鈥榥ewydd鈥. Ond rwy鈥檔 falch fy mod i nid yn unig wedi cefnogi鈥檙 plant hynny oedd angen cefnogaeth fwyaf ac wedi helpu gweithwyr allweddol i allu parhau i weithio drwy ofalu am eu plant bach, ond hefyd drwy gydol y cyfnod clo hwn mae'r plant wedi chwarae, chwerthin ac wedi cael hwyl! Yn wir dyma'r swydd orau!鈥
Mae t卯m Dechrau鈥檔 Deg Sir y Fflint yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd gyda phlant ifanc mewn ardaloedd dynodedig yn Sir y Fflint.听 Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint: Ebostiwch fisf@flintshire.gov.uk 听neu chwiliwch am y t卯m ar y cyfryngau cymdeithasol.
听