Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion i ailagor ar 29 Mehefin
Published: 23/06/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi y bydd tymor yr ysgol yn dod i ben ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf.
Y rheswm dros hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru a鈥檙 undebau llafur wedi llwyddo i gytuno ar y cynnig i ymestyn tymor yr haf hyd at 24 Gorffennaf, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Roeddem wedi gobeithio y byddai鈥檙 materion hyn wedi cael eu datrys ond yn absenoldeb cytundeb cenedlaethol, mae鈥檙 Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniad er mwyn rhoi digon o amser i ysgolion allu cynllunio鈥檔 briodol. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai gan ysgolion ddigon o staff ar gael i weithredu鈥檔 ddiogel yn ystod y bedwaredd wythnos ar sail wirfoddol gan nad yw staff wedi鈥檜 rhwymo dan gontract i weithio yn ystod y gwyliau. Yn gyntaf oll, mae鈥檔 ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau diogelwch ei ddisgyblion a鈥檌 staff.听 Mae Ffederasiwn Penaethiaid Sir y Fflint yn llwyr gefnogi鈥檙 penderfyniad hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淭ra bod y Cyngor yn cefnogi鈥檙 cyhoeddiad i ymestyn tymor yr ysgol, daeth hi鈥檔 amlwg heb unrhyw gytundeb cenedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru a鈥檙 undebau llafur, nad oedd modd i ni sicrhau y byddai digon o staff yn yr ysgolion. Mae diogelwch ei听 disgyblion a鈥檌 staff yn holl bwysig.鈥
Mae鈥檙 awdurdod lleol yn awyddus i weithio gydag ysgolion a rhieni/gofalwyr i sicrhau fod pob disgybl yn elwa o gyfle i ailgydio, dal i fyny gyda鈥檜 cyfoedion ac athrawon, a pharatoi ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.听
O ddydd Llun 29 Mehefin, bydd ysgolion Sir y Fflint yn dechrau derbyn eu disgyblion eu hunain i fynychu sesiynau a nodwyd.
O ganlyniad i鈥檙 ddeddfwriaeth o ran cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a sicrhau iechyd a diogelwch yr holl ddysgwyr a staff, ni fydd ysgolion yn gweithredu darpariaeth llawn amser ar gyfer pob disgybl yn ystod y cyfnod hwn o bedair wythnos, ac ni fyddwn yn dychwelyd i addysgu鈥檙 cwricwlwm llawn chwaith. Ni fydd pob disgybl yn dychwelyd ar unwaith, a phan fyddant yn dychwelyd, mae鈥檔 bosibl y bydd y diwrnod ysgol yn dechrau a gorffen ar wahanol amseroedd ar gyfer gwahanol ddysgwyr. Gallai hyn gynnwys gwahanol drefniadau ar gyfer brodyr a chwiorydd o wahanol oedrannau sy鈥檔 mynychu鈥檙 un ysgol. Mae ysgolion wedi bod yn rhannu eu trefniadau eu hunain gyda rhieni ac maent yn barod i groesawu eu dysgwyr yn 么l.
听