Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llacio鈥檙 cyfyngiadau ar symud
Published: 19/06/2020
Mae鈥檙 Cyngor yn croesawu鈥檙 cyhoeddiad heddiw gan Brif Weinidog Cymru i lacio鈥檙 cyfyngiadau ar symud ac y bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin.
Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer llacio鈥檙 cyfyngiadau ar symud yng nghanol trefi ac ar gyfer mwy o bobl sydd eisiau dod yn 么l i鈥檙 trefi i siopa ac i gael mynediad at wasanaethau. Bydd ymwelwyr yn gweld nifer o newidiadau mewn trefi i鈥檞 cynorthwyo i gadw鈥檔 ddiogel yn ystod eu hymweliad, gan gynnwys arwyddion, ardaloedd ciwio wedi鈥檜 marcio, palmentydd lletach ac mewn rhai llefydd, parthau cerdded unffordd.听
Mae鈥檙 mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi cael eu dylunio i gynorthwyo busnesau i fasnachu鈥檔 effeithiol ac i wneud canol trefi mor groesawgar a chyfforddus 芒 phosibl heb beryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Mae鈥檙 busnesau canol y dref sydd wedi bod ar agor dros y cyfnod wedi bod yn werthfawr iawn i gefnogi trigolion Sir y Fflint drwy鈥檙 cyfnod anodd hwn.听 Mae amrywiaeth eang o siopau yng nghanol trefi Sir y Fflint, sy鈥檔 gwerthu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau o safon uchel, a gobeithiwn y bydd trigolion yn cymryd y cyfle dros yr wythnosau nesaf i ddangos eu cefnogaeth i鈥檞 trefi a chefnogi busnesau lleol.
Wrth weithio gyda鈥檔 partneriaid, byddwn yn parhau i ddatblygu mesurau a datrysiadau priodol eraill sydd eu hangen er mwyn sicrhau cadernid a hyfywedd trefi Sir y Fflint.
听