Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb 2019/2020
Published: 11/06/2020
Pan fydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 16 Mehefin, bydd gofyn iddynt nodi adroddiad ar sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer ei chyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.
Er gwaethaf yr heriau presennol a phwysau economaidd parhaus, rydym wedi llwyddo i gael cyllideb gytbwys ac rydym ar y trywydd i gyflwyno鈥檙 Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau ategol i Swyddfa Archwilio Cymru yn unol 芒鈥檙 dyddiad cau statudol, sef 15 Mehefin.听
Bydd y Cyfrifon yn destun archwiliad dros yr haf a bydd y cyfrifon terfynol wedi鈥檜 harchwilio鈥檔 cael eu cyflwyno i鈥檙 Pwyllgor Archwilio ym mis Medi i gael cymeradwyaeth ffurfiol.听
Dyma oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:
Cronfa鈥檙 Cyngor
鈥� Arian dros ben gweithredol o 拢0.439m (diffyg o 拢1.524m ym mis 11) gan arwain at falans Cronfa Hapddigwyddiad o 拢2.370m ar 31 Mawrth 2020.听
Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
鈥� Roedd gwariant net yn y flwyddyn yn 拢0.686m yn is na鈥檙 gyllideb gan arwain at falans heb ei glustnodi o 拢2.008m ar 31 Mawrth 2020.
Mae鈥檙 sefyllfa derfynol yn symudiad positif sylweddol o 拢1.963m o fis 11 ac mae hyn yn sgil nifer o ffactorau gwahanol.听
Mae meysydd penodol yn destun adolygiad tactegol er mwyn lleihau鈥檙 sefyllfa gorwariant sydd wedi鈥檌 ddarogan megis sefyllfa derfynol Cynllun Disgownt Person Sengl ac adolygiad parhaus o Fenthyciadau Canolog a Chyfrif Buddsoddiadau cymhleth.听
Cyflwynwyd mesurau hefyd i adolygu a herio gwariant dianghenraid a recriwtio i swyddi gwag gyda鈥檙 nod o leihau gwariant yn y flwyddyn er mwyn lleddfu rhywfaint ar y gorwariant a gafodd ei ddarogan ar y pryd.听 Cafodd y gwaith yma effaith cadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.听
Yn ychwanegol, fel y blynyddoedd blaenorol, roedd cafwyd grantiau hwyr gan Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a thrydydd parti, a chafodd y cyfan effaith cadarnhaol ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd 2019/20.
Mae鈥檙 gwelliant yn y sefyllfa ariannol ar ddiwedd mis Mawrth 2020 yn cael ei groesawu mewn cyfnod pan mae angen i ni newid y ffocws i ddelio 芒鈥檙 flwyddyn ariannol newydd a鈥檙 heriau sylweddol rydym ni鈥檔 eu hwynebu.听
听