Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Gwybodaeth am Ailagor
Published: 14/05/2020
Rydym ni鈥檔 falch iawn o gyhoeddi y bydd pob un o鈥檔 Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint yn ailagor ddydd Mawrth, 26 Mai 2020. Bydd y pum canolfan ar agor rhwng 9am ac 8pm bob dydd.
Roeddem yn awyddus iawn i ailagor ein canolfannau gan eu bod yn darparu gwasanaeth pwysig i鈥檔 preswylwyr. Bu鈥檔 rhaid cau pob canolfan yng Nghymru ym mis Mawrth gan nad oedd teithio i鈥檙 canolfannau - i waredu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu - yn cael ei ystyried yn hanfodol dan reoliadau brys y llywodraeth.听听
Rydym ni wedi bod yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru ar ein cynlluniau i ailagor ein safleoedd, ochr yn ochr 芒 chynghorau eraill yng Nghymru, gan geisio ailagor erbyn diwedd mis Mai. Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau i ganiat谩u cludiant cyhoeddus i ganolfannau. Mae hyn yn golygu bod modd i ni rwan ddechrau arni go iawn gyda鈥檔 cynlluniau i ailagor.听 听
Bydd y rhan fwyaf o gynghorau yn ailagor eu canolfannau tua鈥檙 un pryd ac efallai y bydd rhai yn agor yn gynt. Dydyn ni ddim mewn sefyllfa i agor yn gynt gan ein bod ni wedi adleoli鈥檙 timau sy鈥檔 gweithio yn y canolfannau i helpu gyda鈥檙 gwasanaeth casglu gwastraff gardd sy鈥檔 cael ei gynnal dros dro鈥檙 wythnos hon a鈥檙 wythnos nesaf.听
Gall ailagor y canolfannau ar benwythnos gwyl y banc arwain at giwio mawr, a gall hynny fod yn rhwystredig i gwsmeriaid yn ogystal 芒 gweithwyr. Drwy ailagor ar ddydd Mawrth mae鈥檔 fwy tebygol y bydd y galw yn cael ei wasgaru ar draws yr wythnos - gan osgoi ciwiau hir a all arwain at dagfeydd ar y briffordd a gwrthdrawiadau traffig.听
Bydd yna alw mawr yn ystod yr wythnos gyntaf ac felly rydym ni鈥檔 galw ar bawb i gydweithredu ac osgoi teithio i鈥檙 canolfannau yn ystod y dyddiau cyntaf os nad oes wir angen gwneud hynny.听
Mae鈥檔 rhaid i ni ddiogelu'r cyhoedd a gweithwyr ac felly byddwn yn rhoi鈥檙 mesurau diogelwch canlynol yn ar waith:听
- Cydymffurfio鈥檔 llawn 芒 rheoliadau iechyd a diogelwch a chanllawiau鈥檙 llywodraeth听
- Mannau glanweithdra priodol ar gyfer defnyddwyr a gweithwyr听
- Mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer cwsmeriaid a gweithwyr - ni fydd cymorth ar gael i dynnu na chario deunyddiau o gerbydau cwsmeriaid听
- Systemau rheoli traffig - nifer cyfyngedig o gerbydau fydd yn cael dod i mewn ar yr un pryd
Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar gyda鈥檙 rheolau newydd hyn a gweithio efo ni i gadw pawb yn saff.听
Rydym ni鈥檔 rhagweld y bydd galw mawr am y gwasanaeth yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf a bydd yn rhaid rheoli鈥檙 canolfannau yn ofalus i sicrhau diogelwch preswylwyr a gweithwyr.听 听
I helpu i leihau鈥檙 galw ar y canolfannau rydym ni wedi ailgychwyn y casgliadau gwastraff gardd - am gyfnod o bythefnos yn unig o ddydd Llun 11 Mai tan ddydd Sadwrn 23 Mai - ar gyfer preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn 2019 neu 2020. Ceir rhagor o wybodaeth am y casgliad untro hwn ar dudalen Casgliadau Gwastraff Gardd ein gwefan. Rydym ni鈥檔 bwriadu ailgynnig y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn fwy rheolaidd cyn gynted 芒 phosibl.听
Bydd rhagor o wybodaeth am ddefnyddio鈥檙 canolfannau ar gael yr wythnos nesaf.听
听
听