Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Goleuo Neuadd y Sir
Published: 15/05/2020
Goleuwyd Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug neithiwr i gefnogi a chydnabod y GIG.
Bydd logo鈥檙 GIG gyda lliwiau鈥檙 enfys a logo 鈥淪ir y Fflint Fel Un鈥 Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddangos i nodi鈥檙 perthnasau gwaith agos rhwng y Cyngor Sir a鈥檙 Gwasanaeth Iechyd, yn arbennig ar yr adeg hon.
Cysylltodd y cwmni lleol CSP AV Ltd sydd wedi eu lleoli yn Saltney gyda Th卯m Busnes y Cyngor i gynnig eu gwasanaethau yn rhad ac am ddim i oleuo Neuadd y Sir am un noson.听 Dewiswyd dydd Iau gan fod y diwrnod hwn wedi dod yn gyfle i ddiolch i鈥檔 cydweithwyr yn y sector iechyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檔 gweithlu a鈥檙 gwahaniaeth maent yn ei wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn.听 Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn gwneud aberthau personol aruthrol i wasanaethu a diogelu eraill.听 Mae gweithwyr y Cyngor yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檔 cydweithwyr yn y GIG, a phartneriaid eraill, i gadw鈥檙 ddau wasanaeth i fynd a gwneud i brosiectau arbennig ddigwydd 鈥 fel creu ysbyty argyfwng yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Ysbyty鈥檙 Enfys Glannau Dyfrdwy 鈥 mewn dim ond pedair wythnos, ac agor cartrefi preswyl newydd i helpu mwy o bobl i gael eu rhyddhau o鈥檙 ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel.鈥
Dywedodd Alun Williams o CSP AV Ltd:
鈥淩oeddem eisiau dangos ein cefnogaeth i鈥檙 GIG a鈥檙 Cyngor am yr holl waith maent yn ei wneud i gefnogi trigolion a busnesau Sir y Fflint.鈥
听