天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Published: 11/05/2020

Ddydd Gwener, 8 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i ail-agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar draws Cymru cyn bo hir, a chaniat芒d i deithio yno.

Mae cynghorau ar draws Cymru yn cydweithio, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ail-agor y Canolfannau hyn yn ddiogel.听 Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd a鈥檔 gweithlu, a bydd rhaid cael y mesurau diogelwch canlynol ar waith:

  • Cydymffurfio'n llawn gyda rheoliadau iechyd a diogelwch, yn ogystal 芒 chanllawiau'r llywodraeth
  • Lefelau staffio digonol ymhob cyfleuster听
  • Argaeledd glanweithdra priodol
  • Rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
  • Systemau rheoli traffig cadarn ac effeithiol

Yma yn Sir y Fflint, hoffwn fod mewn sefyllfa i ail-agor ein pum cyfleuster ailgylchu erbyn diwedd mis Mai, cyn belled ein bod wedi cael canllawiau clir gan Lywodraeth Cymru.

I leihau鈥檙 pwysau ar ein Canolfannau Ailgylchu pan maent yn ail-agor am y tro cyntaf, mae'r Cyngor wedi ailddechrau casgliadau gwastraff gardd am gyfnod o bythefnos yn unig - Dydd Llun 11 Mai hyd at Ddydd Sadwrn 23 Mai, i breswylwyr sydd wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth 2019 a/neu 2020.听 Mae rhagor o wybodaeth am y casgliadau un tro hyn ar gael ar wefan y Cyngor.

Rydym yn croesawu cyhoeddiad dydd Gwener, ac rydym yn gwybod y bydd yn gyhoeddiad y mae llawer o鈥檔 preswylwyr yn ei groesawu hefyd.

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ar ein cynlluniau i ail-agor cyfleusterau lleol yn y dyddiau nesaf.

听