Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith Hanfodol i Wella鈥檙 Briffordd
Published: 07/05/2020
Oherwydd y gostyngiad sylweddol o ran lefelau traffig yn ystod y cyfnod hwn, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal nifer o gynlluniau rheoli traffig a gwella diogelwch hanfodol rhwng mis Mai a mis Gorffennaf.听
Fel arfer, byddai gwaith o鈥檙 fath yn achosi tagfeydd sylweddol ac anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd. Fodd bynnag, bydd y lefelau is o draffig ar hyn o bryd yn caniat谩u i鈥檙 gwaith gael ei wneud yn ddiogel gyda鈥檙 lefel isaf bosibl o amhariad. Caiff gwaith ei fonitro鈥檔 agos a鈥檌 oruchwylio, a bydd yn cydymffurfio 芒 gofynion cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth.
Mae gwaith wedi dechrau yn Nhreffynnon a鈥檙 Fflint, ac mae鈥檔 cynnwys:
- gosod canop茂au yn Tower Gardens a gosod cyswllt teithio llesol newydd (troedffordd / llwybr beiciau) (Treffynnon);
- gwaith rhoi wyneb newydd i鈥檙 l么n gerbydau y tu allan i Westy Victoria a鈥檙 Orsaf Bysiau (Treffynnon);
- gwaith uwchraddio鈥檙 goleuadau traffig presennol ar yr A548 / Church Street ac adleoli鈥檙 llwybr teithio llesol trwy Church Street (y Fflint).
Bwriedir i waith uwchraddio鈥檙 goleuadau traffig presennol ar yr A548, Well Hill, Maes Glas, sy鈥檔 cynnwys croesfan twcan newydd, ddechrau ar 11 Mai.听
Bydd gwaith adeiladu troedffordd / llwybr beiciau defnydd a rennir oddi ar y ffordd ar hyd yr A5104 rhwng Brychdyn a Saltney yn dechrau ar 18 Mai. Bydd darpariaeth llwybrau cerdded a beicio o鈥檙 Strand, Treffynnon, yn cysylltu 芒 Dyffryn Maes Glas yn dechrau ar 26 Mai.听
Bydd rhaglen y Cyngor o roi wyneb newydd ar l么n gerbydau hefyd yn dechrau ar 18 Mai yn Yr H么b/Caergwrle (A541) yna Brychdyn i Saltney (A5104) a Threffynnon (B5121).听
Ar ddechrau mis Mehefin, bydd gwaith yn dechrau yn Sandycroft i uwchraddio鈥檙 goleuadau traffig presennol yn B5129/ Leaches Lane a B5129/Mancot Lane. Bydd croesfan twcan newydd wedi鈥檌 chynnwys yn y ddau safle. Bydd system o gamer芒u gorfodi traffig yn cael ei gosod hefyd yn ardal Ysgol Gynradd Sandycroft er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 pharcio annetholus.听
Ar 8 Mehefin, bydd y Cyngor yn dechrau rhaglen o waith i uwchraddio鈥檙 camer芒u cyflymder a ganlyn i dechnoleg ddigidol;
- A5104 Pontybodkin
- A5119 Sychdyn
- A548 Maesglas
- A548 Oakenholt
- A550 Gladstone Way, Penarl芒g
- A548 Mostyn
- A549 Mynydd Isa
- B5129 Pentre
Bydd gwaith ar adeiladu cyfleuster parcio a theithio newydd yn gyfagos i Barth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn dechrau ganol fis Mehefin.
Pan fydd wedi鈥檌 gwblhau, bydd y gwaith gwella hanfodol hwn yn helpu i sicrhau bod rhwydwaith ffyrdd y Sir yn aros yn ddiogel a hygyrch i bob defnyddiwr.
Mae鈥檙 gwaith hwn wedi鈥檌 ariannu gan Gynllun Cludiant Lleol Lywodraeth Cymru, Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, Cyllid Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir y Fflint.
听