天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog deiliaid tai yng Nghymru i gadw鈥檔 glir o weithredwyr gwaredu sbwriel anghyfreithlon sy鈥檔 hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol

Published: 30/04/2020

Wales Action logo Welsh.pngMae Taclo Tipio Cymru yn annog deiliaid tai ledled Cymru i reoli eu sbwriel mewn modd cyfrifol a bod yn wyliadwrus wrth dderbyn cynigion gan unigolion sy鈥檔 honni ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn fusnesau gwaredu gwastraff cyfreithlon yn ystod cyfyngiadau鈥檙 coronafeirws.

Hefyd, caiff deiliaid tai eu hannog i ohirio prosiectau garddio a DIY hyd nes y caiff y cyfyngiadau symud eu codi, oni bai y bydd modd iddynt storio鈥檙 gwastraff ychwanegol yn eu cartrefi heb arwain at risgiau iechyd a diogelwch, fel peryglon t芒n.

Mae鈥檙 rhybudd llym a鈥檙 negeseuon allweddol gan Taclo Tipio Cymru yn dilyn pryderon ymhlith awdurdodau lleol ynghylch y nifer o bobl sy鈥檔 cynnig gwasanaethau gwaredu sbwriel anghyfreithlon mewn grwpiau cymunedol, fel y rhai sydd ar Facebook 鈥� rhywbeth y maent yn ofni ei fod ar gynnydd ers i鈥檙 cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol ddod i rym yng Nghymru.

Er bod nifer o bobl eisoes yn ceisio cynhyrchu cyn lleied o wastraff 芒 phosibl, gan gael gwared ag ef yn y dull priodol, caiff deiliaid tai eu hatgoffa fod ganddynt ddyletswydd gofal gyfreithiol i gadarnhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod y sawl a ddefnyddir ganddynt i gael gwared 芒鈥檙 sbwriel o鈥檜 cartref yn gludydd gwastraff cofrestredig 鈥� yn enwedig ar hyn o bryd, a ninnau yng nghanol argyfwng cenedlaethol.

Yn unol 芒 chyngor iechyd a diogelwch a gyhoeddwyd gan DEFRA, mae鈥檙 holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yng Nghymru wedi cael eu cau hyd nes y clywir yn wahanol.

Felly, mae Taclo Tipio Cymru yn rhybuddio bod deiliaid tai yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan unigolion nad ydynt wedi cofrestru, sy鈥檔 manteisio ar y cyfyngiadau symud trwy gynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff rhad. Yn aml, mae鈥檙 unigolion hyn yn gollwng y gwastraff yn anghyfreithlon mewn caeau, ar ymylon ffyrdd ac ar hyd lonydd cefn gwlad.

Os yw swyddog gorfodi gwastraff yn llwyddo i olrhain sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon at ddeiliad ty a aeth ati i ddefnyddio gwasanaethau rhywun heb wirio ei fod yn gludydd gwastraff cofrestredig, fe allai鈥檙 deiliad ty hwnnw wynebu dirwy ddiderfyn a chael ei erlyn. Ymhellach, gall awdurdodau lleol ledled Cymru gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o 拢300 i ddeiliaid tai, yn hytrach na鈥檜 herlyn.

Gellir dod o hyd i restr o gludwyr gwastraff cofrestredig 鈥� y dylid ei defnyddio i wneud y gwiriadau hollbwysig hyn 鈥� ar .听

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell y dylai pobl ofyn i ble y bydd eu sbwriel yn mynd, ynghyd 芒 gofyn am dderbynneb gan y cwmni a ddefnyddiwyd i gael gwared 芒鈥檙 gwastraff a chofnodi manylion y cerbyd a ddefnyddiwyd, yn cynnwys ei wneuthuriad, ei fodel a鈥檌 rif聽cofrestru.

Fly tip 1.jpg聽 聽聽 Fly-Tipping is a serious crime logo - Welsh.jpg聽 聽聽 Fly tip 2.jpg