Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Well-Fed yn gwneud pethau da
Published: 22/04/2020
Mae Well-Fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Clwyd Alyn a CanCook - mae鈥檔 gwmni bwyd sydd wedi ymrwymo i fwydo pawb yn dda.听听
Pan fydd pobl yn llwglyd ac angen edrych ar 么l eu hunain yn wyneb feirws sy鈥檔 bygwth bywyd, mae arnyn nhw angen deiet iach; deiet sy鈥檔 gallu digoni eu newyn a chefnogi eu system imiwnedd.
Yr wythnos ddiwethaf danfonodd Well-Fed 3000 o brydau, 200 o fagiau caserol araf a thros 100 o focsys hanfodion, i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint yn rhad ac am ddim. Pob wythnos yn ystod y 12 wythnos nesaf, bydd Well-Fed yn gwneud yr un fath ac yn sicrhau bod preswylwyr mewn angen, preswylwyr sy鈥檔 hunan-ynysu a methu mynd allan a phreswylwyr ein lloches nos yn derbyn bwyd dda a ffres.
Mae gwasanaeth Well-Fed yn debyg iawn i wasanaeth 鈥榩ryd ar glud鈥 - ond ar newydd wedd. Gan weithio鈥檔 agos iawn gyda staff Cyngor Sir y Fflint mae'r gwasanaeth yn darparu bwyd da a ffres, heb ychwanegion, ac yn defnyddio cynhwysion lleol a chynaliadwy. Nod Well-Fed ydi 鈥渃ysylltu pobl drwy fwyd da鈥 felly yn ogystal 芒 bwydo preswylwyr mewn gofal a phreswylwyr sy鈥檔 byw ar eu pen eu hunain mae鈥檙 gwasanaeth hefyd yn mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi bwyd. Mae maint a graddfa ymateb Covid-19 Well-Fed mor fawr nes ei fod yn unigryw i鈥檙 DU.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 01352 752121.
听 听 听 听听 |
 |
听
听